Programme Coordinator: Wales & Languages
Wikimedia UK is the national platform for open knowledge, bringing together practical and policy expertise about Wikipedia and the other Wikimedia projects. We work with world-leading cultural and educational institutions to increase access to knowledge, and develop information literacy skills.
We support a range of minority and minoritised language communities and their associated Wikimedia projects, including indigenous languages of the UK. We have actively collaborated with the Welsh Wikimedia community for many years and are committed to continuing this support, while also extending our offer to other languages.
We are therefore recruiting for a Wales and Languages Programme Coordinator to join our small and friendly staff team. You would have a focus on supporting the development of Welsh open knowledge projects and communities but would also provide support and Wikimedia expertise to other language communities. An ideal candidate would have Welsh language skills, together with community development and partnership building experience, and a commitment to opening up access to knowledge and information.
Please note, that if you are applying for part time hours then the role would be focused on Wales only, with additional language activities incorporated only into a full time role.
Applications (CV and cover letter) to be sent to Sara Thomas (Programme Manager) - sara.thomas@wikimedia.org.uk
Closing date end of day 11th November 2024.
Job Description
Job Title: | Wales (and Languages) Programme Coordinator |
Hours: | Offered as either part time (exact hours to be agreed, supporting Wales only), or full time (35 hours per week) with broader language remit |
Location: | Flexible within the UK, with regular travel to meet with partners and communities in Wales (and possibly further in the UK), and meetings in London between four and six times a year. |
Reporting to: | Programme Manager |
Salary: | £30-35,000 per annum pro rata depending on experience |
Pension: | WMUK offers a pension scheme, with a current employer contribution of 6% |
Annual leave: | 25 days annual leave plus public holidays (pro rata) |
Purpose of job
To manage Wikimedia UK’s programme in Wales, and to support other language communities, in consultation with the Wikimedia UK Programme Manager, and in collaboration with the wider Programmes team.
Main Duties
1. Programme Development and Delivery
- Lead on the development and delivery of Wikimedia UK’s programme in Wales, in collaboration with the Programme Manager and the Director of Programmes and Evaluation
- Develop and deliver a range of activities, such as Wikipedia editing events, media donations, and conferences, in partnership with other staff and external stakeholders
- Seek potential opportunities for new projects and partnerships
- Work with other staff to identify funding opportunities for existing or potential projects
2. Relationship Management
- Develop and manage relationships with existing and potential partner organisations in Wales
- Play a role in maintaining a collaboration with Wikimedia Community Ireland, and other relevant Wikimedia affiliates who support language development. This may include engaging with the Language Diversity Hub
3. Community Engagement and Development
- Seed and develop new contributor communities within target language groups, developing a range of activities appropriate to their needs
- Identify and develop partnerships with community groups working in Welsh or other target languages
- Develop engagement opportunities for new and existing Wikimedia projects contributors including content generation opportunities (campaigns), editing events, editor meetups and similar; and provide support for community-led activities
- Support the development of community organisers who can be involved in delivering activities in Wales; and where appropriate, provide support for online community governance processes.
- Deliver (or support the delivery of) training for new and existing volunteers
- Support the volunteer grants programme in relation to activities in Wales
- Pilot and evaluate different models of community engagement and development of our language communities, in consultation with the Programme Manager and the Director of Programmes and Evaluation
- Support other staff within the Programmes team in their own work with language communities
4. Monitoring, Evaluation and Impact
- Report regularly on programme plans, outputs and outcomes, in collaboration with other staff in the Programmes team
- Handle documentation and record all relevant programme metrics. Update CRM records for partnerships, volunteers and activities
5. Communication and Dissemination
- Write blog posts, create case studies, and generally contribute to the promotion and dissemination of our work and impact, in collaboration with the Communications team
- Engage in public speaking opportunities on behalf of Wikimedia UK in promoting our work in Wales, as required
- Engage with other Wikimedia organisations, sharing our language work expertise
Experience
- Experience in the Welsh cultural, education or open knowledge sectors
- Experience of managing partnership projects
- Experience of organising events
- Experience of working effectively with volunteers and supporting volunteer development
- Experience of developing and/or delivering training or skills development opportunities
- Experience of supporting minoritised groups
- Experience of working directly with schools (desirable)
Skills, abilities and attributes
- Learner level of Welsh (or higher)
- Collaborative, supportive approach
- Good interpersonal skills, with the ability to involve and inspire volunteers in person and remotely
- Project reporting and communicating outcomes
- Passionate about the mission and values of Wikimedia UK
- An understanding of the Wikimedia volunteer communities (desirable)
- Existing knowledge or transferable skills appropriate to technical on-wiki activity, or willingness to learn. Example items include mass upload, data cleaning, wiki templates, etc Flexibility, adaptability to opportunities as they arise
Wikimedia UK holds equity, diversity and inclusion at the heart of our organisation. We particularly welcome applications from potential candidates from traditionally underrepresented groups, such as those with protected characteristics as defined by the Equality Act. As a Disability Confident Employer, we offer a guaranteed interview to any disabled candidate who meets the essential criteria for the post. If you would like to be considered under this scheme, please state this in your covering letter.
If shortlisted, we may share with you some of the interview questions in advance to help you better prepare.
Wikimedia UK yw'r llwyfan cenedlaethol ar gyfer gwybodaeth agored, sy’n dwyn ynghyd arbenigedd ymarferol a pholisi am Wicipedia a phrosiectau Wikimedia eraill. Rydym yn gweithio gyda sefydliadau diwylliannol ac addysgol o'r radd flaenaf i wella mynediad at wybodaeth, a datblygu sgiliau llythrennedd gwybodaeth.
Rydym yn cefnogi amrywiaeth o gymunedau iaith lleiafrifol a lleiafrifedig a’u prosiectau Wikimedia cysylltiedig, gan gynnwys ieithoedd brodorol y DU. Rydym wedi cydweithio â'r gymuned Wikimedia Cymraeg ers blynyddoedd lawer ac rydym wedi ymrwymo i barhau â'r gefnogaeth hon, gan ymestyn yr hyn rydym yn ei gynnig i ieithoedd eraill ar yr un pryd.
Felly, rydym yn recriwtio Cydgysylltydd Rhaglenni Dros Cymru ac Ieithoedd i ymuno â'n tîm bach a chyfeillgar o staff. Byddech yn canolbwyntio ar gefnogi datblygiad prosiectau a chymunedau gwybodaeth agored Cymreig ond hefyd yn darparu cefnogaeth ac arbenigedd Wikimedia i gymunedau iaith eraill. Byddai gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau Cymraeg, ynghyd â phrofiad o ddatblygu cymunedol ac o feithrin partneriaethau, ac ymrwymiad i sicrhau bod mynediad agored ar gael at wybodaeth.
Sylwch, os ydych chi’n gwneud cais am oriau rhan-amser, byddai’r swydd yn canolbwyntio ar Gymru yn unig, gyda gweithgareddau iaith ychwanegol yn cael eu cynnwys mewn rôl amser llawn yn unig.
Anfonwch geisiadau (CV a llythyr eglurhaol) at Sara Thomas (Rheolwr y Rhaglen) - sara.thomas@wikimedia.org.uk
Dyddiad cau, diwedd y dydd 11 Tachwedd 2024.
Disgrifiad Swydd
Teitl y swydd: | Cydgysylltydd Rhaglen Cymru (ac Ieithoedd) |
Oriau: | Cynigir y swydd naill ai fel un rhan-amser (union oriau i’w cytuno, yn cefnogi Cymru yn unig), neu amser llawn (35 awr yr wythnos) gyda chylch gwaith ehangach sy’n cynnwys iaith |
Lleoliad: | Hyblyg yn y DU, gan deithio’n rheolaidd i gwrdd â phartneriaid a chymunedau yng Nghymru (ac ymhellach o bosibl yn y DU), a chyfarfodydd yn Llundain rhwng pedair a chwe gwaith y flwyddyn. |
Yn atebol i: | Rheolwr y Rhaglen |
Cyflog: | Cyflog cychwynnol £30,000 y flwyddyn pro rata yn dibynnu ar brofiad |
Pensiwn: | Mae Wikimedia UK yn cynnig cynllun pensiwn, gyda chyfraniad cyflogwr o 6% |
Buddion: | 25 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â gwyliau banc (pro rata) |
Pwrpas y swydd
Rheoli rhaglen Wikimedia UK yng Nghymru, a chefnogi cymunedau iaith eraill, mewn ymgynghoriad â Rheolwr Rhaglen Wikimedia UK, ac ar y cyd â'r tîm Rhaglenni ehangach.
Prif Ddyletswyddau
1. Datblygu a Darparu’r Rhaglen
- Arwain y gwaith o ddatblygu a darparu rhaglen Wikimedia UK yng Nghymru, ar y cyd â Rheolwr y Rhaglen a’r Cyfarwyddwr Rhaglenni a Gwerthuso
- Datblygu a chyflwyno amrywiaeth o weithgareddau, fel digwyddiadau golygu Wicipedia, rhoddion gan y cyfryngau, a chynadleddau, mewn partneriaeth â staff eraill a rhanddeiliaid allanol
- Chwilio am gyfleoedd posibl ar gyfer prosiectau a phartneriaethau newydd
- Gweithio gyda staff eraill i ganfod cyfleoedd cyllido ar gyfer prosiectau presennol neu brosiectau posibl
2. Rheoli Cydberthnasau
- Datblygu a rheoli cysylltiadau gyda sefydliadau partner presennol a rhai posibl yng Nghymru
- Chwarae rôl wrth gynnal cydweithrediad gyda Wikimedia Community Ireland, ac endidau ymgysylltiol perthnasol eraill Wikimedia sy'n cefnogi datblygiad iaith. Gallai hyn gynnwys ymgysylltu â’r Ganolfan Amrywiaeth Iaith
3. Ymgysylltu â’r Gymuned a Datblygu Cymunedol
- Sbarduno a datblygu cymunedau newydd o gyfrannwyr o fewn grwpiau iaith targed, gan ddatblygu amrywiaeth o weithgareddau sy’n briodol i’w hanghenion
- Canfod a datblygu partneriaethau gyda grwpiau cymunedol sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg neu mewn ieithoedd targed eraill
- Datblygu cyfleoedd ymgysylltu ar gyfer cyfranwyr prosiectau Wikimedia newydd a chyfranwyr presennol gan gynnwys cyfleoedd cynhyrchu cynnwys (ymgyrchoedd), digwyddiadau golygu, cyfarfodydd golygyddion a gweithgareddau tebyg; a darparu cymorth ar gyfer gweithgareddau a arweinir gan y gymuned
- Cefnogi’r gwaith o ddatblygu trefnwyr cymunedol sy’n gallu bod yn rhan o’r gwaith o ddarparu gweithgareddau yng Nghymru; a, lle bo hynny’n briodol, darparu cymorth ar gyfer prosesau llywodraethu cymunedol ar-lein.
- Darparu (neu gefnogi darpariaeth) hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr newydd a gwirfoddolwyr presennol
- Cefnogi’r rhaglen grantiau i wirfoddolwyr mewn perthynas â gweithgareddau yng Nghymru
- Treialu a gwerthuso gwahanol fodelau o ymgysylltu â’r gymuned a datblygu ein cymunedau iaith, gan ymgynghori â Rheolwr y Rhaglen a’r Cyfarwyddwr Rhaglenni a Gwerthuso
- Cefnogi staff eraill o fewn y tîm Rhaglenni yn eu gwaith eu hunain gyda chymunedau iaith
4. Monitro, Gwerthuso ac Effaith
- Adrodd yn rheolaidd ar gynlluniau, allbynnau a chanlyniadau rhaglenni, mewn cydweithrediad â staff eraill yn y tîm Rhaglenni
- Ymdrin â dogfennau a chofnodi holl fetrigau perthnasol y rhaglen. Diweddaru cofnodion CRM ar gyfer partneriaethau, gwirfoddolwyr a gweithgareddau
5. Cyfathrebu a Lledaenu
- Ysgrifennu blogiau, creu astudiaethau achos, a chyfrannu’n gyffredinol at hyrwyddo a lledaenu’n gwaith a’n heffaith, mewn cydweithrediad â’r tîm Cyfathrebu
- Manteisio ar gyfleoedd i siarad yn gyhoeddus ar ran Wikimedia UK i hyrwyddo’n gwaith yng Nghymru, yn ôl yr angen
- Ymgysylltu â sefydliadau eraill Wikimedia, gan rannu ein harbenigedd mewn gwaith iaith
Profiad
- Profiad yn y sectorau diwylliannol, addysg neu wybodaeth agored yng Nghymru
- Profiad o reoli prosiectau partneriaeth
- Profiad o drefnu digwyddiadau
- Profiad o weithio’n effeithiol gyda gwirfoddolwyr a chefnogi datblygiad gwirfoddolwyr
- Profiad o ddatblygu a/neu ddarparu cyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu sgiliau
- Profiad o gefnogi grwpiau lleiafrifiedig
- Profiad o weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion (dymunol)
Sgiliau, galluoedd a nodweddion
- Cymraeg ar lefel dysgwyr (neu uwch)
- Dull cydweithredol a chefnogol
- Sgiliau rhyngbersonol da, ac yn gallu cynnwys ac ysbrydoli gwirfoddolwyr wyneb yn wyneb ac o bell
- Adrodd ar y prosiect a chyfleu canlyniadau
- Yn angerddol am genhadaeth a gwerthoedd Wikimedia UK
- Dealltwriaeth o gymunedau gwirfoddolwyr Wikimedia (dymunol)
- Gwybodaeth bresennol neu sgiliau trosglwyddadwy sy’n briodol i weithgarwch technegol ar wiki, neu barodrwydd i ddysgu. Rhai o'r eitemau enghreifftiol yw lanlwytho torfol, glanhau data, templedi wiki, ac ati
- Hyblygrwydd, yn gallu i addasu i gyfleoedd wrth iddynt godi
Mae Wikimedia UK yn rhoi tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon ein sefydliad. Yn arbennig, rydym yn croesawu ceisiadau gan ddarpar ymgeiswyr o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli’n draddodiadol, fel y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir gan y Ddeddf Cydraddoldeb. Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw ymgeisydd anabl sy’n bodloni meini prawf hanfodol y swydd. Os hoffech gael eich ystyried o dan y cynllun hwn, nodwch hyn yn eich llythyr eglurhaol.
Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, efallai y byddwn yn rhannu rhai o gwestiynau’r cyfweliad gyda chi ymlaen llaw i’ch helpu i baratoi’n well.