Spotlight on Wales for International Photography Competition

  • May 13, 2021

Upload your photographs during June to be in with a chance of winning country and
international prizes.

This year Wales is taking part in the international photography competition ‘Wiki Loves Earth’ organised by the Wikimedia movement. Founded 9 years ago as a focus for nature heritage, the competition aims to raise awareness of protected sites globally.

Robin Owain who leads the Wikimedia UK projects across Wales said “Today we’re excited to be launching Wiki Loves Earth 2021 in Wales. This is one of the largest photography competitions in the world focusing on National Parks, Sites of Special Scientific Interest, Sites of Outstanding Natural Beauty and all other protected areas. Robin explained “The biodiversity and geology of Wales is unique, and this competition allows Welsh photographers to show the beauty of their landscape, the flora and fauna of their protected areas on a world stage.”

Organizations who will be supporting this exciting competition include Natural Resources Wales, Pembrokeshire and Snowdonia National Park, the Welsh Mountaineering Club, Edward Llwyd nature society, National Library of Wales, Wikimedia UK, WiciMon and others.

Jason Evans, National Wikimedian at the National Library said, “”The National Library of Wales is thrilled to support this competition, which will encourage people to explore and document Wales’ diverse wildlife and landscapes. This aligns with our commitment to community engagement and will complement our current Welsh Government funded project to support the improvement of Welsh language data and mapping services.”

This year, the international winning photos will represent two categories — landscapes, including individual trees if it has a preservation order, and macro or close-ups of animals, plants, fungi etc. Examples of past winners can be seen at #WikiLovesEarth. For instructions on how to upload, Google ‘Wiki Loves Earth 2021 in Wales’, or follow this link.

Any photographs taken in the past (even on a phone) can be uploaded during June, with prizes at both country and national level for the winners. Robin added “The competition is open to everyone. We ask our friends, volunteers and staff to put Wales on the international map by entering their photographs of our beautiful and diverse country.”

Read more about Wiki Loves Earth 2021 in Wales here on Wikimedia Commons.
More on Wiki Loves Earth can be found here.

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Byd-Eang Ar Natur – Cymru’n Cystadlu

Mae Cymru’n cymryd rhan eleni yn y gystadleuaeth ffotograffeg ‘Wiki Loves Earth’ (Wici’r
Holl Fyd yw’r enw Cymraeg) a drefnir gan y mudiad rhyngwladol Wikimedia, mam Wicipedia!

Ymhlith y sefydliadau eraill fydd yn cefnogi’r gystadleuaeth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Parciau Cenedlaethol Eryri a Phenfro, Clwb Mynydda Cymru, Cymdeithas Edward Llwyd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Wikimedia UK, WiciMon ac eraill.

Yn ôl Robin Owain sy’n arwain gwaith Wikimedia UK yng Nghymru, “Mae heddiw’n ddiwrnod cyffrous iawn, gan ein bod ni’n lansio Wici’r Holl Ddaear 2021 yng Nghymru. Dyma un o’r cystadlaethau ffotograffiaeth mwyaf yn y byd sy’n canolbwyntio ar Barciau Cenedlaethol, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Safleoedd o Harddwch Naturiol Eithriadol ac ardaledd warchodedig eraill.” Esboniodd Robin “Mae bioamrywiaeth a daeareg Cymru’n unigryw, ac mae’r gystadleuaeth hon yn caniatáu i ffotograffwyr o Gymru gofnodi ac arddangos ei harddwch: y tirwedd a’r golygfeydd, a chyfoeth yr amrywiaeth bywyd sydd yma: anifeiliaid, ffwng a phlanhigion.”

Ymhlith y sefydliadau eraill fydd yn cefnogi’r gystadleuaeth y mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Parciau Cenedlaethol Penfro ac Eryri, Clwb Mynydda Cymru, Cymdeithas Edward Llwyd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, WiciMon a Wikimedia UK.

Dywedodd Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol Cymru, “Mae’n bleser gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gael cefnogi’r gystadleuaeth hon, a fydd yn annog pobl i archwilio a dogfennu bywyd gwyllt a thirweddau amrywiol Cymru. Mae hyn yn cyd-fynd â’n hymrwymiad ni i ymgysylltu â’r gymuned a, bydd yn ategu ein prosiect presennol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i gefnogi gwella data a gwasanaethau mapio yn y Gymraeg.”

I gael hyd i’r cyfarwyddiadau sut i uwchlwytho, a rhagor am ymgais Cymru, Gwglwch Wici’r Holl Ddaear 2021 Cymru, neu dilynnwch y ddolen: https://commons.wikimedia.org/wiki/Commons:Wiki_Loves_Earth_2021_in_Wales

Gallwch uwwchlwytho lluniau rydych wedi eu cymryd unrhyw bryd yn y gorffennol, neu fynd ati o hyn tan ddiwedd Mehefin, ac yn ôl Robin, “Gall unrhyw beson gystadlu, gan ddefnyddio camera eu ffôn neu gamera pwrpasol! Be sy’n bwysig ydy ein bod yn cystadlu, fel cenedl ar lefel rhyngwladol!”

Dolen i wefan Cymru: yma ar Comin Wicimedia

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *