Wicidelta: erthyglau Wicipedia unigryw mewn 284 iaith

  • December 1, 2016

This blog post is also available in English.

wicidelta-aromaneg

Beth yw Wicidelta?

Os ydych chi’n chwilfrydig am ieithoedd a diwylliannau’r byd, dilynwch Wicidelta ar Twitter. Cyfrif answyddogol ac arbrofol ydy e sy’n ymgais i ddarganfod yr hyn a allai fod yn unigryw ym mhob un o ieithoedd Wicipedia.

Mae’r cyfrif yn dewis iaith ar hap. Wedyn mae’n postio dolenni, un ar y tro, at erthyglau Wicipedia unigryw yn yr iaith honno.

Erthygl unigryw, yn ôl fy niffiniad i yma, ydy un heb ddolenni at fersiynau eraill mewn ieithoedd eraill. Mewn geiriau eraill, nid oes unrhyw gyfieithiadau, addasiadau na fersiynau eraill o’r erthygl honno. Mae pob erthygl yn un heb ei thebyg mewn unrhyw iaith arall – ar adeg y trydariad.

Mae 284 fersiwn iaith Wicipedia sy’n weithredol ar hyn o bryd, ac mae pob un yn cael ei chynnal yn bennaf gan wirfoddolwyr fel chi a fi sy’n creu erthyglau yn ôl eu diddordeb a’u harbenigedd.

Mae pob dolen rydych chi’n gweld ar y cyfrif Wicidelta yn enghraifft o natur unigryw posibl o bwnc a fynegir mewn iaith benodol, a grëwyd fel arfer gan ddefnyddiwr yr iaith honno.

Gyda llaw mae fersiwn Cymraeg a fersiwn Saesneg o Wicidelta. Dim ond y bywgraffiad a’r trydariadau ‘datgan iaith’ yn wahanol. Dros amser byddan nhw yn mynd drwy’r ieithoedd i gyd. Ond dw i wedi penderfynu bod nhw yn postio dolenni hollol wahanol er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth o sbam wrth system Twitter!

Syndodau pob dydd

Mae pob dolen yn cynnig cyfle i gydnabod cyfraniad a phwnc a allai fod wedi cael dim ond ychydig o sylw, yn enwedig y tu allan i’w gymuned neu gymunedau iaith ei hun.

Ar gyfer rhai ieithoedd, mae’n bosibl cael awgrym o’r erthygl drwy ddefnyddio cyfieithu peirianyddol awtomatig.

Yn y ddelwedd gyntaf uchod mae Wicidelta wedi dewis postio dolenni yn yr iaith Aromaneg. Mae’r trydariad sy’n datgan hyn yn defnyddio’r endonym yn gyntaf (enw’r iaith yn yr iaith ei hun), wedi’i ddilyn gan yr enw yn Gymraeg, wedi’i ddilyn gan hashnod fer sy’n cynnig cod yr iaith (sydd hefyd yn is-barth Wicipedia ar gyfer yr iaith honno). Mae hi wedi bod yn dipyn o ymdrech i ganfod yr enwau yn Gymraeg a dweud y gwir ac mae dal angen rhai – gobeithio bydd pobl yn creu erthyglau Wicipedia Cymraeg am yr holl ieithoedd diddorol yma!

wikidelta-farsi-enghraifft

Yn y ddelwedd yma mae’r ddolen a ddewiswyd ar hap yn edrych fel bod hi’n arwain at ffilm, ac un drwy gyfrwng y Berseg. Yn ôl cyfieithu peirianyddol mae’r teitl yn cyfleu rhywbeth fel “Castell Yassin”. Nodwch nad yw hyn o reidrwydd yn argymell y ffilm hon (dw i ddim wedi ei gweld) er fy mod i wedi clywed bod llawer o ffilmiau Iran godidog i’w gwylio.

Barddoniaeth, llenyddiaeth, diwylliant a mwy

Beth allai fod yn unigryw yn Wicipedia pob iaith?

Dechreuodd fy niddordeb mewn unigrywiaeth erthyglau mewn cyfrif awtomateg o’r enw UnigrywUnigryw ym mis Ebrill 2016. Mae’r cyfrif yn fath o ragflaenydd Wicidelta sy’n canolbwyntio ar erthyglau yn Gymraeg.

Dyma enghreifftiau o’r erthyglau unigryw i’r Gymraeg o’r cyfrif hwn ers y dechrau:

Mae pob un o’r mathau hyn o erthygl mewn rhyw ffordd yn gysylltiedig â Chymru a’i hiaith. Byddwn yn disgwyl gweld paralelau yn yr ieithoedd eraill a rennir gan Wicidelta. Er enghraifft mae unigrywiaeth i farddoniaeth unrhyw iaith felly gallen ni ddisgwyl gweld hyn yn rheolaidd ar Wicidelta.

Ond weithiau does dim cysylltiad amlwg rhwng yr erthyglau unigryw â’r genedl neu iaith – heblaw am y ffaith bod rhywun yn rhywle jyst eisiau creu erthygl am bwnc penodol!

dolen-rhyngwici

Ychwanegu cysylltau rhyngwici rhwng ieithoedd

Weithiau mae erthygl yn ymddangos yn unigryw oherwydd nad oes cyfrannwr Wicipedia wedi llwyddo i ychwanegu dolenni rhyngwici i erthyglau mewn ieithoedd eraill eto.

Mae Wicipedia yn brosiect sy’n tyfu ac esblygu drwy’r amser, felly efallai bod yr unigrywiaeth oherwydd diffyg job olygu fach.

Os yw ystyr yr erthygl yn 100% amlwg, gallai unrhyw un wneud y job olygu, gan gynnwys defnyddwyr nad ydynt yn rhugl mewn ychydig eiliadau. Mae hyn o fudd nid yn unig i Wicipedia ond Wicidata hefyd.

(Dyma enghraifft o drydariad o’r fersiwn Saesneg o Wicidelta lle dw i wedi ychwanegu dolenni rhyngiaith i erthygl Wicipedia Gàidhlig am etholaeth seneddol San Steffan.)

Ymchwil a datblygu pellach

Dw i newydd ddechrau darganfod patrymau yn yr allbwn, tra fy mod yn edrych ar allbwn y sgript meddalwedd sylfaenol sy’n gyrru Wicidelta.

Er enghraifft, mae’n ymddangos bod cydberthynas rhwng pethau fel hyd erthygl cyfartalog a nifer cyfartalog o ddelweddau ac elfennau amlgyfrwng eraill mewn erthygl – a pha mor dda mae’r iaith yn cael ei ‘adnoddu’, fel petai.

Dw i hefyd yn cynhyrchu siart o holl ieithoedd Wicipedia mewn trefn pa mor ‘unigryw’ y maent, ac am rannu hyn rywbryd eto.

Yn y cyfamser dw i’n bwriadu ychwanegu gwiriadau penodol i Wicidelta sy’n cynrychioli ansawdd yr erthygl, e.e. nifer o gyfranwyr, lleiafswm hyd yr erthygl, elfennau amlgyfrwng ac yn y blaen. Ar hyn o bryd mae’r system yn dewis yr erthyglau unigryw ar hap, ond dw i am ychwanegu rhagor at yr algorithm a thrwy hynny arddangos yr erthyglau ‘gorau’ y gall pob iaith ei gynnig, ac yna byrstio ein swigod hidlo ar-lein mewn ffyrdd annisgwyl.

Sut i helpu / rhoi cydnabyddiaeth

Dw i’n gobeithio y byddwch yn mwynhau Wicidelta ac yn dysgu rhywbeth diddorol am ein byd heddiw.

Os hoffech helpu, dilynwch y cyfrif Wicidelta ac mae croeso i chi aildrydar unrhyw drydariadau o ddiddordeb i chi. Yn ogystal efallai y byddwch am wneud rhywfaint o olygu a gwella Wicipedia o ganlyniad i’r hyn a welwch. Os ydych yn rhugl mewn iaith sydd ddim ar y rhestr o Wicipediau ac rydych am ddechrau un gyda rhai defnyddwyr rhugl eraill, efallai bod rhywun arall sy’n gallu helpu.

Mae gwaith ymchwil posibl i’w wneud yma, felly cysylltwch â mi os hoffech gydweithio ar rywbeth.

Gallech gyfieithu’r erthygl hon i ieithoedd eraill ac ail-gyhoeddi mewn mannau eraill. Trwyddedwyd yr erthygl o dan CC-BY-SA.

Diolch i Wikimedia UK am y cyfle i rannu hyn, ac i Illtud, Ffrancon, Rhys Wynne a Huw Waters am help gyda’r syniad.

2 thoughts on “Wicidelta: erthyglau Wicipedia unigryw mewn 284 iaith”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *