Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018/Teithio

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search
Trenau yng ngorsaf Aberystwyth, 1960au

Yn anffodus, ni cheir maes awyr yn Aberystwyth, serch hynny cynhelir nifer o wasanaethau trenau a bysiau yn y dref. Dyma gyflwyno rhai manylion i'ch cynorthwyo wrth gynllunio eich taith i Aberystwyth.

Mewn car

Gellir cyrraedd Aber drwy deithio ar ddau brif ffordd: yr A44 o’r Dwyrain, a’r A487 sy’n arwain o’r Gogledd i’r De drwy’r dref. Mae dewis y ffordd orau yn destun dadleuol, o ba bynnag cyfeiriad. Prynwch fap a mwynhewch. Bydd eich taith yn cymryd lleiafrif o 3 awr o Birmingham, 2 awr a 40 munud o Gaerdydd, 2 awr a 5 munud o Abertawe – rhai nodi fod yr amseroedd yma’n hollol ddibynnol ar y nifer o dractorau ar y daith. Ceir hefyd gwasanaeth parcio a theithio.

Mae yna ddigonedd o le parcio ar faes y Llyfrgell Genedlaethol, am gost o £2 y dydd.

Ar fws

Prawf fod gennym fysiau yn Aberystwyth

Mae gwasanaeth 40 Arriva CymruExpress yn teithio rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn ddyddiol (bob awr Ll-Sa), gyda rhai teithiau’n ymestyn i Abertawe (gwasanaeth 20) a Chaerdydd (gwasanaeth 10). Yr X32 yw’r gwasanaeth gogleddol cyfatebol gan gynnig cysylltiad rhwng y dref a lleoliadau mor gyffrous â Machynlleth, Dolgellau a Bangor, oleua dwywaith y dydd.

Traveline: 0871 200 22 33

Un gwasanaeth dyddiol National Express 409 i/o Birmingham a Fictoria Llundain.

Mewn awyren

Ar hyn o bryd lleolir y maes awyr agosaf yn Abertawe, lle ellir glanio awyrennau ysgafn yn unig. Gellir teithio’n hawdd o Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham i Aberystwyth ar drên uniongyrchol, taith o tua 3 awr a 30 munud.

Teithio o gwmpas y dref

Mae rheng tacsi Aberystwyth wedi’i leoli gyferbyn a’r orsaf drên

Tref fechan yw Aberystwyth; y ffordd orau i deithio o gwmpas yw ar droed.

Os ydych yn dymuno teithio mewn cerbyd, ceir cwmnïau tacsis helaeth lleol a rhesymol

Mae gwasanaethau bws yn teithio i fyny rhyw Penglais (lleoliad prif gampws y brifysgol a’r Llyfrgell Genedlaethol) ac i Lanbadarn Fawr (y campws arall, a lleoliad archfarchnad Morrisons).