Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018/Galw am bapurau

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

Mae Celtic Knot 2018 yn anelu at ail-gydio lle orffennodd y gynhadledd y llynedd. Anogir siaradwyr i rannu eu llwyddiannau a’r sialensiau a ddaeth i’w rhan wrth gynorthwyo i ddatblygu Wicepedia mewn iaith fechan neu leiafrifol. Bydd ail ddiwrnod y gynhadledd yn cynnig y cyfle i fynychwyr anghynadledda, gan roi’r opsiwn iddynt awgrymu themâu i’w trafod ar y diwrnod ei hun. Gellir wedyn llunio sesiynau a fydd yn adeiladu ar y themâu a’r materion a godwyd yn amserlen draddodiadol y gynhadledd.

Gellir taro golwg ar y papurau sydd eisoes wedi eu cyflwyno yma.

Themâu

Ni fydd y gynhadledd yn cyfyngu themâu ei phapurau a’i chyflwyniadau y tu hwnt i’r amlinelliad bras uchod, serch hynny, efallai y dylid cyfrannwyr ystyried amlinelli sesiynau’n trafod prosiectau cymunedol, defnyddio Wikipedia yn y sector addysg neu ddatblygiadau ynghylch data agored / defnyddio Wikidata yn eich iaith eich hunain.

Mathau o gyflwyniadau

Derbynnir cyflwyniadau sy’n dilyn y fformatau canlynol, serch hynny nodwch os gwelwch yn dda mai awgrymiadau cychwynnol yn unig yw’r amseroedd a roddir ac mae’n bosib y byddant yn newid ychydig wrth lunio’r amserlen.

  • Sgyrsiau fflach – cyflwyniad byr, tua 5 munud, yn trafod unrhyw bwnc addas
  • Gweithdai a thiwtorialau – sesiynau 30-40 munud yn addas ar gyfer trafodaethau grŵp, gweithdai neu diwtorialau ar bwnc penodol, megis Cyfieithu Cynnwys neu Wikidata
  • Cyflwyniad – cyflwyniad 20-30 munud
  • Trafodaeth ar ffurf panel – trafodaeth ar bwnc penodol yn para 30-40 munud. Mae croeso i chi gydweithio gydag eraill er mwyn ffurfio panel.

Cyflwyno amlinelliad

Wrth gyflwyno amlinelliad, mae’n rhaid i chi gytuno bod:

eich amlinelliad ac unrhyw sleidiau cysylltiedig i’w rhyddhau oddi tan Drwydded Comin Creadigol 3.0, ac os caiff eich cynnig ei dderbyn, bydd y sesiwn yn cael ei ddarlledu a’i / neu’i recordio a’i ryddhau ar ffurf clip sain neu fideo oddi tan yr un drwydded.

Os ydych yn ymwrthod a’r telerau uchod (er enghraifft, ynghylch ffilmio’r sesiwn), cysylltwch â Jason.nlw cyn i chi gynnig amlinelliad.