Expert outreach/Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol/HacathonHanes2020
|
Thema
Bydd yr Hacathon Hanes yn ddiwrnod hacio sy'n canolbwyntio ar ailddefnyddio data hanesyddol am bobl Cymru o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae hyn yn cynnwys miloedd o gofnodion bywgraffyddol, delweddau portread, cofnodion llongau, data daearyddol a thestun OCR o'r casgliadau. Rydym yn arbennig o awyddus i weld defnydd o ddata iaith Gymraeg.
Gall hacio gynnwys rhaglenni, visualisations, gamification, defnyddio creadigol ac artistig a llawer mwy!
Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn a bydd lluniaeth, cinio a bag o bethau da i'r holl gyfranogwyr!
Data ar gael nawr
Dyma lincs i rai o'r setiau data sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad yma / Here are links to some of the datasets available for this event.
- Data ar Wikidata
- Mynegai Ewyllysiau / Probate records CSV
- Cofnodion Llongau Aberystwyth / Aberystwyth Shipping Records CSV - Cofnodion llongau masnachol y 19eg Ganrif] sydd yn cynnwys gwybodaeth am y llongau, a'i chriw, a teithiau'r llongau. mae'r data yma yn gwych ar gyfer creu visualisations fel yr un yma.
- Data Siml i'r Bywgraffiadur / Basic data for Welsh Biography CSV, JSON, HTML
- Data manwl y Bywgraffiadur / Detailed data for the Welsh Biography CSV, JSON, HTML
- IIIF manisfests i delweddau LLGC ar Wikidata / IIIF manisfests for NLW images on Wikidata CSV, JSON, HTML
- Cofnodion Llyfr Cofio Cymru RhB1 JSON - Llyfr y Cofio: Rhestr o enwau tua 35,000 o ddynion a menywod o dras Gymreig neu a fu'n gwasanaethu gyda Chatrodau Cymreig a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. O waith trawsgrifio'r gyfrol wreiddol hardd.
- Cofnodion Tribiwnlys Apêl y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi JSON - Cofnodion Tribiwnlys Apêl y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi Cofnodion rhyfeddol o'r apeliadau yn erbyn gorfodaeth i ymrestru ar gyfer mynd i'r rhyfel mawr. Gorchmynwyd i'r cofnodion gael eu dinistrio yn 1921, a felly y bu hi drwy Gymru gyfan, ond rywsut goroesodd cofnodion Sir Aberteifi, a maent wedi eu trawsgrifio gan y dorf bydd y set data ar gael i'r hacathon. Mae'n cynnwys manylion personol, gwybodaeth am gyflogaeth, rhesymau dros ofyn am gael eu heithio rhag ymrestru yn y lluoedd arfog, pendefyniad y tribiwnlys a’r rhesymau dros y penderfyniad hwn.
- Cronfa Trosedd a chosb CSV, JSON
- Data ychwanegol am llongau Aberystwyth (teithiau) JSON
Data i ddod
Am y tro cynta, bydd mynediad llawn ar y diwrnod i gopi o'r mynegai cyfan, gydag API i'w chwilio a mireinio. Testun llawn 16 milliwn o erthyglau o hanes Cymru a'i phobl.
Drwy un o brosiectau torfoli mwyaf Cymru erioed, llwyddodd 1,354 o unigolion drawsgrifio 28,105 o dudalenni o restrau manwl am gaeau Cymru a'r bobl oedd yn berchen arnynt a'u ffermio. Bydd mynediad API llawn i'r 874586 cofnod i'w chwilio a'u holi. Mae'r cofnodion wedi eu geo-leoli, felly yn hawdd i'w dangos ar fapiau.
Yn ogystal a'r set ddata uchod, bydd rhyngwyneb API i'ch helpu i holi'r data a chreu adnoddau dynamig ohono. Bydd rhyngwyneb grafigol i'ch helpu i holi'r API a ffeindio'ch ffordd rownd y data cyfoethog hyn am bobl nodedig Cymru.
- Delweddau IIIF
Byddwn yn dangos sut i ddefnyddio APIs cyhoeddus y Llyfrgell i fofyn delweddau digidol o'n casgliadau, a'r cysylltiadau gyda'r setiau data uchod.
Offer Wikidata
Offer Defnyddiol
- Google Data Studio
- http://workbenchdata.com/ - ar gyfer glanhau data.
- Raw Graphs - Data vis