User:Jason.nlw/Adroddiad Mis 1

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adroddiad mis 1af


Prosiectau a gynhelir

Yn ystod wythnosau cyntaf y preswyliad mae'r ffocws wedi bod ar gwrdd a thimau o wahanol adrannau’r Llyfrgell. Mae hyn wedi bod yn gyfle i egluro natur y preswyliad ac i hyrwyddo ei nodau a'i amcanion. Defnyddiwyd y cyfarfodydd hyn i drafod syniadau a phryderon ac i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau defnyddiol. Mae’r sesiynau cychwynnol wedi cynnwys:

  • Archifau a llawysgrifau
  • Archif Sgrin a Sain Cymru
  • Addysg
  • Cydlynydd y rhaglen gwirfoddoli
  • Ymchwil digidol
  • Tîm y we
  • Tîm Metadata
  • Systemau
  • Rheolwyr Casgliad y Werin (Partner i’r LLGC)
  • ‘Wales at War’
  • Arddangosfeydd
  • Prif Weithredwr/Llyfrgellydd


Amcanion a deilliannau

Estyn allan

Yr amcan yw cynnal o leiaf 6 digwyddiad neu weithdai cyhoeddus (Golygathonau) yn ystod y cyfnod preswyl (12 mis). Bydd pob digwyddiad yn targedu cynulleidfa a phwnc penodol. Yn seiliedig ar drafodaethau rhagarweiniol dyma restr o ddigwyddiadau arfaethedig (un wedi ei gadarnhau a’i gyhoeddi).

Canlyniadau'r mis 1af:

  • Golygathon Ffotograffwyr Cymreig (10 Ebrill) - Mae’r golygathon hwn yn gysylltiedig efo lansiad arddangosfa fawr yn LlGC ar fywyd a gwaith Phillip Jones Griffiths. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn LlGC gyda chefnogaeth gan y Curadur Delweddau Gweledol. (Link)
  • Golygathon cyfreithiau Hywel Dda (Gwanwyn 2015) - Digwyddiad i ganolbwyntio ar wella cynnwys sy'n ymwneud â chyfreithiau Hywel Dda ac agweddau o’r gymdeithas yng Nghymru o dan y Gyfraith Gymreig (ee hawliau Merched). Bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Dr Sara Roberts, sylfaenydd cyfraith-hywel.cymru.ac.uk - adnodd academaidd ar-lein ar gyfer yr astudiaeth o gyfraith Gymreig.
  • Golygathon Cymru yn y rhyfel. (Gwanwyn 2015) Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn LlGC a bydd yn canolbwyntio ar wella cynnwys ymwneud â rôl Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda chymorth gan y tîm Cymru1914 ac academyddion / myfyrwyr.
  • Golygathon Y Wladfa (haf 2015) - Dethlir 150 mlynedd ers dyfodiad y gwladychwyr Cymreig cyntaf ym Mhatagonia; bydd y golygathon yn cael ei drefnu gyda staff Casgliad y Werin sy'n rhedeg rhaglen o ddigwyddiadau i nodi pen-blwydd yr achlysur.
  • Golygathon Gwyddoniaeth Gynnar (Haf 2015) - Trefnwyd i gyd-fynd â lansiad arddangosfa fawr yn LlGC. Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar wella cynnwys gydag enghreifftiau cynnar o astudiaeth wyddonol yng Nghymru.
  • Golygathon Rhyfel Byd Cyntaf - Gallipoli (Awst 2015) - Bydd yn tynnu ar gyfranwyr o'r Golygathon cyntaf ar y Rhyfel Byd Cyntaf a bydd y ffocws ar yr holl gynnwys sy’n ymwneud ag ymgyrch Gallipoli, lle wnaeth catrodau Cymreig chwarae rhan mor allweddol. Bydd hyn yn cyd-fynd â chanmlwyddiant yr ymgyrch filwrol. Lleoliad i'w gadarnhau.
  • Golygathon Cwpan y Byd Rygbi - (Hydref 2015) - I ddathlu Cwpan Rygbi’r Byd: byddwn yn gofyn i Wicipediwr a selogion chwaraeon i wella cynnwys erthyglau am y gêm, y chwaraewyr a gemau enwog. Gobeithir sicrhau lleoliad yng Nghaerdydd ar gyfer y digwyddiad hwn.
  • Bywgraffiadur Ar-lein - prosiect Wiki-data (Lansio Mawrth) - Mae’r prosiect hwn wedi’i anelu at amlyncu data o’r Bywgraffiadur Ar-lein i mewn i Wikidata fel ei fod yn dod yn rhan o'r sgript Rheoli Awdurdod (Authority Control) ar Wicipedia, ym mhob iaith. Mae 8-10 o wirfoddolwyr eisioes wedi dangos diddordeb a bydd hyfforddiant yn dechrau'n fuan.


Gweithdai a digwyddiadau Staff

Yr amcan yw cysylltu â staff ac i hyrwyddo cysylltiadau digidol trwy wahodd staff i ddysgu mwy am Wicipedia a sut i olygu.

Canlyniadau'r mis 1af:

  • Cyflwyniad rhagarweiniol o 1 awr (20 Chwefror, 2015) - bydd cyflwyniadau ar wahân yn cael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y sgwrs yn canolbwyntio ar egluro nodau ac uchelgeisiau Wicipedia, nodau'r Wicipediwr Preswyl a lles y cydweithrediad i Wicipedia / Wikimedia, y LlGC a'r gymuned ehangach.
  • Bydd cyfres o weithdai’n cael eu trefnu yn dilyn y cyflwyniad uchod. Bydd y rhain yn cael eu cynnig i bob aelod o staff ac aelodau rhaglen gwirfoddoli LlGC. Byddant yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau golygu.
  • Golygathon Staff. Bydd yr holl staff sy'n cymryd rhan yn yr hyfforddiant yn cael eu hannog i fynychu Golygathon ac i olygu pynciau o'u dewis. Bydd y digwyddiad yn dilyn y gweithdai hyfforddiant cychwynnol.

Casgliadau digidol i’w rhyddhau

Yr amcan yw nodi a rhyddhau archifau digidol i Gomin Wicimedia (Wiki-Commons), yn bennaf i'w defnyddio mewn erthyglau Wicipedia, ym mhob iaith.

Canlyniadau'r mis 1af:

  • Mae rhestr ragarweiniol o archifau i’w llwytho i Gomin Wicimedia wedi’i pharatoi ac wedi cael ei chyflwyno i'w chymeradwyo gan dîm gweithredol LLGC. Os caiff y rhestr ei chymeradwyo yna bydd tua 20,000 o ddelweddau y gellid eu lanlwytho i Comin. Darperir manylion pellach yn adroddiad y mis nesaf yn dilyn canlyniad y cais.
  • Mae trafodaethau ar y gweill gyda thimau Metadata a Systemau ynghylch defnyddio ‘GlamWiki tools’ fel ateb cynaliadwy a thymor hir i lanlwytho delweddau i Comin.

Adeiladu pontydd

Yr amcan yw peri newidiadau adeiladol i: ddiwylliant, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau’r LLGC er mwyn creu perthynas gynaliadwy gyda Wikimedia UK a chymuned Wicipedia ac i hyrwyddo ethos gwybodaeth agored.

Canlyniadau'r mis 1af:

  • Casgliad y Werin - Mae’r LlGC yn bartner pwysig y prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddigideiddio a rhannu delweddau Cymreig. Ar hyn o bryd mae’r holl gyfraniadau wedi'u trwyddedu ar Drwydded Anfasnachol. Mae trafodaethau cychwynnol gyda rheolwyr wedi arwain at ymrwymiad i adolygu'r polisi hwn ac i ystyried cynnig dewis o drwyddedau anfasnachol a ellir eu cynnig i gyfranwyr yn y dyfodol gyda'r bwriad o lanlwytho delweddau ar drwydded agored ar Gomin Wicimedia.
  • Arddangosfeydd - Bydd y defnydd o godau QRpedia yn cael ei dreialu mewn arddangosfa fawr sydd ar y gweill yn LlGC ar fywyd a gwaith Phillip Jones Griffiths (a fydd yn agor ar 27 Mehefin, 2015). Fel rhan o'r ymrwymiad i Wicipedia, cytunwyd i ryddhau sampl o ddelweddau o bob arddangosfa LlGC i Comin yn y dyfodol.
  • Dyfynnu ar Wicipedia - Bydd botwm 'Dyfynnu ar Wicipedia’ yn cael ei ychwanegu at lawer o'n hadnoddau ar-lein gan ddechrau gyda 'Phapurau Newydd Cymraeg Ar-lein'. Mae'r Botwm yn cynhyrchu dyfyniad mewn Côd-wici (‘Wiki-markup’) i gael ei gopïo’n syth i mewn i'r Golygydd Wici. Mae Europeana a nifer o gyrff a sefydliadau eraill yn defnyddio'r nodwedd hon ar eu gwefannau.