Wikimedia yng Nghymru

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search
Cymraeg · English

Croeso i Wikimedia yng Nghymru

Croeso i Wikimedia yng Nghymru, sef cartref popeth sy’n ymwneud â Chymru, a’r Gymraeg, ar draws holl brosiectau Wikimedia.

Rydyn ni bob amser wrth ein boddau yn clywed gan sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru a hoffai ymwneud â Wikimedia UK. Gallwch gysylltu â Chydlynydd Rhaglen Cymru, Gemma Coleman ar gemma.coleman@wikimedia.org.uk.

Sut ydw i’n darganfod beth sy'n digwydd yng Nghymru?

  • Cofrestrwch ar gyfer rhestr e-bost Cymru. Byddwn yn rhannu popeth sy'n ymwneud â Chymru a'r Gymraeg yma.
  • Cofrestrwch ar gyfer rhestr trafodaeth e-bost y DU. (Mae hyn yn cwmpasu'r DU gyfan, felly efallai na fydd rhai digwyddiadau llai yn cael eu rhannu yma)
  • Edrychwch ar y rhestrau ar y dudalen we hon a thudalen digwyddiadau'r DU am drosolwg cynhwysfawr o'r holl ddigwyddiadau sydd ar ddod.
  • Efallai na fydd pob digwyddiad yn cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, ond gallwch ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (rydyn ni ar Bluesky, Mastodon, LinkedIn, Facebook, Instagram ac ati)

Digwyddiadau sydd ar ddod yng Nghymru ac ar-lein

Tachwedd

Rhagfyr


Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau ledled y DU i'w gweld ar y dudalen Digwyddiadau.

Trefnu digwyddiadau

Wicigwrdd

Dim ond un aelod o staff sydd gennym yng Nghymru. Rydyn ni, felly, bob amser yn chwilio am gyfranwyr sydd eisiau cynnal Wicigwrdd neu digwyddiadau anffurfiol yn eu rhan nhw o Gymru. Ceir gwybodaeth am sut i drefnu un ar-lein ac rydyn ni’n hapus i helpu cymaint ag y gallwn. Anfonwch e-bost at Gemma ar gemma.coleman@wikimedia.org.uk os hoffech help neu gymorth gyda hyn.

Sesiynau ‘Bocs Tywod’

Mae ein cyfranwyr cymunedol yn ffynhonnell o wybodaeth a sgiliau. Mae rhai ohonyn nhw wedi rhannu hyn â’u cyfoedion yn ein Sesiynau ‘Bocs Tywod’. Gweler How to calmly edit in controversial areas ac Using Duplicity: Create Missing Wikidata Items from Wikipedia fel enghreifftiau diweddar. Os oes gennych chi sgìl yr hoffech chi ei rhannu â’r gymuned, anfonwch e-bost at gemma.coleman@wikimedia.org.uk i drafod.

Rhywbeth arall?

Oes gennych chi syniad sydd heb gael ei restru uchod? Wiki Walk yn eich ardal gan ddefnyddio WikiShootMe o bosibl, neu daith dywys gan ddefnyddio lluniau o Wiki Commons i ddangos sut yr edrychai ardal yn y gorffennol? Efallai eich bod chi'n rhan o grŵp a hoffai ddysgu sut i olygu Wikipedia, neu efallai fod yna bwnc rydych chi'n angerddol amdano. Os oes gennych chi syniad y gallwn eich helpu ag ef, anfonwch e-bost at email gemma.coleman@wikimedia.org.uk.

Digwyddiadau a recordiadau o’r gorffennol

Ffyrdd eraill o gymryd rhan

Icon from Font Awesome by Dave Gandy - http://fortawesome.github.com/Font-Awesome, licensed under Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0

Ymunwch â Wikimedia UK

Mae aelodau'n chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol y Siapter. Gall unrhyw un fod yn aelod am £5 y flwyddyn.

Icon from Font Awesome by Dave Gandy - http://fortawesome.github.com/Font-Awesome, licensed under Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0

Digwyddiadau

Rydyn ni’n trefnu llawer o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys cyfarfodydd, digwyddiadau golygu, digwyddiadau "Tocyn Cefn Llwyfan" mewn amgueddfeydd, gweithdai a chynadleddau. Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu digwyddiad, cysylltwch â ni.

Icon from Font Awesome by Dave Gandy - http://fortawesome.github.com/Font-Awesome, licensed under Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0

Dechrau golygu

Dechreuwch olygu heddiw! Mae mwy i Wikimedia na Wikipedia yn unig – mae hefyd yn cynnwys WikiData, Wikimedia Commons, WikiSource, a mwy.

Icon from Font Awesome by Dave Gandy - http://fortawesome.github.com/Font-Awesome, licensed under Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0

Uwchlwythwch eich lluniau

Mae Wikimedia Commons yn storfa o gyfryngau rhad ac am ddim. Uwchlwythwch eich lluniau heddiw a gadewch iddyn nhw gyrraedd cynulleidfa o filoedd.

Rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed gan wirfoddolwyr newydd. Os oes gennych chi syniad yr hoffech chi helpu i’w wireddu, neu amser a sgiliau yr hoffech chi eu cynnig i Wikimedia UK, cysylltwch â ni ar volunteeringatwikimedia.org.uk