Celtic Knot Conference 2018/Submissions/Parallel.cymru: Creating side-by-side Welsh-English digital magazine articles and resources

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search
Title of the submission/Teitl eich bapur
Parallel.cymru:Creating side-by-side Welsh-English digital magazine articles and resources / Parallel.cymru: Creu cylchgrawn digidol. erthyglau ac adnoddau Cymraeg – Saesneg ochr yn ochr
Type of submission/Math o bapur
Workshop/Discussion
Author of the submission/Awdur y papur
Neil Rowlands
Affiliation/cysylltiadau
N/A
Abstract/Crynodeb

I launched the digital magazine parallel.cymru in November 2017 to make reading Welsh inclusive and enjoyable for all. Reading matter in Wales is almost always provided in a binary Welsh or English option, but presenting the same content side by side, in parallel, is established in many European language pairs. For people with some experience in Welsh but don't feel fully fluent, this makes understanding and improving reading ability challenging. Parallel reading opens the language up to anyone, and provides an inclusive way for people to step into that language and culture. I'll explain how parallel.cymru works and lead a discussion on what we all can learn about how other lesser-used languages use similar inclusive approaches.

Sefydlais y cylchgrawn digidol parallel.cymru ym mis Tachwedd 2017 er mwyn gwneud darllen Cymraeg yn gynhwysol ac yn fwynhad i bawb. Mae deunydd darllen yng Nghymru bron bob amser yn cael ei ddarparu naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg, ond mae cyflwyno’r un cynnwys mewn dwy iaith ochr yn ochr wedi sefydlu ei hun mewn nifer o barau o ieithoedd Ewropeaidd. I bobl sydd â rhywfaint o brofiad yn y Gymraeg, ond sydd ddim yn teimlo’n hollol rhugl, mae hyn yn gwneud deall a gwella y gallu darllen yn heriol. Mae darllen cyflin yn gwneud yr iaith yn agored i unrhywun, ac yn darparu ffordd gynhwysol i bobl gamu i mewn i’r iaith a’r diwylliant. Byddaf yn esbonio sut y mae paralel.cymru’n gweithio ac yn arwain trafodaeth ar beth allwn ni i gyd ddysgu am sut mae ieithoedd eraill llai poblogaidd yn defnyddio dulliau cynhwysol tebyg.


Biography/Bywgraffiad

I launched the digital magazine parallel.cymru in November 2017 to make reading Welsh inclusive and enjoyable for all. Reading matter in Wales is almost always provided in a binary Welsh or English option. For people with some experience in Welsh but don't feel fully fluent, this makes understanding and improving reading ability challenging. Presenting the same content side by side, in parallel, is established in many European language pairs. Parallel reading opens the language up to anyone, and provides an inclusive way for people to step into that language and culture. I'll explain how parallel.cymru works and lead a discussion on what we all can learn about how other lesser-used languages use similar inclusive approaches.

I'm an active Welsh for Adults learner with experience of running and supporting small projects and designing websites. I look forward to interesting discussions with all of you!

Lansiais y cylchgrawn digidol parallel.cymru ym mis Tachwedd 2017 er mwyn gwneud darllen Cymraeg yn gynhwysol ac yn fwynhad i bawb. Mae deunydd darllen yng Nghymru bron bob amser yn cael ei ddarparu naill ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg. I bobl sydd â pheth profiad o’r Gymraeg, ond sydd ddim yn teimlo’n hollol rhugl, mae hyn yn gwneud deall a gwella y gallu i ddarllen yn her. Mae cyflwyno’r un testun ochr yn ochr, yn gyflin, wedi ei sefydlu yn achos nifer o barau o ieithoedd Ewropeaidd. Mae darllen cyflin yn gwneud yr iaith yn hygyrch i unrhywun, ac yn darparu ffordd gynhwysol i bobl gamu i mewn i iaith a’i diwylliant. Byddaf yn egluro sut mae paralel.cymru yn gweithio ac yn arwain trafodaeth ar beth allwn ni i gyd ddysgu am sut mae ieithoedd llai poblog eraill yn defnyddio dulliau cynhwysol tebyg.

Rydw i’n ddysgwr gweithgar gyda Chymraeg i Oedolion gyda phrofiad o redeg a chefnogi prosiectau bychain a chynllunio gwefannau. Rwy’n edrych ymlaen at gael trafodaethau diddorol gyda chi i gyd!