Celtic Knot Conference 2018/Submissions/Vicipéid in Ireland

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search
Title of the submission/Teitl eich bapur
Vicipéid in Ireland / Vicipéid yn Iwerddon
Type of submission/Math o bapur
Presentation
Author of the submission/Awdur y papur
Rebecca O'Neill, Meghan Dowling, Abigail Walsh
Affiliation/cysylltiadau
Wikimedia Ireland
Abstract/Crynodeb

In the past year, Wikimedia Community Ireland has undertaken a concerted effort to engage more with the Irish speaking community in Ireland and to promote the use of Vicipéid more generally. As well as meeting with and discussing Vicipéid with Irish language organisations and institutions, Vicipéid is beginning to find its place within Irish education. Firstly, this presentation will give an overview of this year of initial outreach with Irish speakers. As Wikimedia Community Ireland lacked active members with a sufficient level of Irish to work with Irish speakers, it was a case of building from the ground up. The second section will explore the experiences of the first use of Vicipéid and the Outreach Dashboard in a third level institution in Ireland. As one of the smaller language Wikipedias, Vicipéid offers a huge opportunity to engage student editors, working either to translate from other languages into Irish, or to create articles with a unique notability to the language. In conclusion, the successes and challenges that have been encountered over the past 12 months will be presented. Some of these were technical, and others relate to the culture of Irish speakers and existing editors. Overall, the presentation will give a case study of a local Wikimedia group beginning to engage with a language group in a more strategic manner.


Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe ymgymerodd y gymuned Wkimedia yn Iwerddon ag ymdrech fwy penodol i gysylltu â’r gymuned iaith Wyddeleg yn Iwerddon, ac i hybu’r defnydd o Vicipéid yn fwy cyffredinol. Yn osystal â chyfarfod a thrafod Vicipéid gyda sefydliadau iaith Gwyddeleg, dechreuodd Vicipéid ddarganfod ei le o fewn addysg drwy gyfrwng y Wyddeleg. Yn gyntaf, bydd y cyflwyniad yma’n rhoi trosolwg o flwyddyn o estyn allan dechreuol gyda siaradwyr Gwyddeleg. Gan nad oedd gan Gymuned Wikipedia Iwerddon ddigon o aelodau gyda lefel digonol o Wyddeleg i weithio gyda siaradwyr Gwyddeleg, roedd yn achos o godi o’r gwaelod i fyny. Bydd yr ail adran yn archwilio profiadau’r defnydd cyntaf o Vicipéid ac Adroddiad Estyn Allan mewn sefydliad trydyddol yn Iwerddon. Fel un o’r Wikipedia iaith llai, mae Vicipéid yn darparu cyfle enfawr i ymgysylltu â myfyrwyr sy’n golygu, ac sydd naill ai yn gweithio i gyfieithu erthyglau o ieithoedd eraill i’r Wyddeleg, neu i greu erthyglau gyda phwysigrwydd penodol yn yr iaith. Fel casgliad, bydd y llwyddiannau a’r heriau a wynebwyd dros y 12 mis diwethaf yn cael eu cyflwyno. Roedd rhai o’r rhain yn heriau technegol, ac eraill yn ymwneud â diwylliant siaradwyr Gwyddeleg a Golygwyr presennol. Yn gyffredinol, bydd y cyflwyniad yn rhoi astudiaeth achos o grŵp Wikimedia lleol sy’n dechrau ymgysylltu gyda grŵp iaith mewn ffordd mwy strategol.

Biography/Bywgraffiad

Rebecca O’Neill is the Project Coordinator with Wikimedia Community Ireland, and has been an active member of the Wikimedia community since 2014. She holds a PhD in Digital Media, using Wikipedia as an example of collective “citizen curation.” She has been working with fluent Irish speakers to encourage more engagement with the Irish language Wikipedia: Vicipéid. Much of this work has centred on improving the user experience on wiki, as well as working on the resources needed for new and improving editors.

Rebecca O'Neill yw'r Cydlynydd Prosiect gyda Chymuned Wikimedia Iwerddon, ac mae wedi bod yn aelod gweithgar o'r gymuned Wikimedia ers 2014. Mae ganddi PhD mewn Cyfryngau Digidol, gan ddefnyddio Wikipedia fel enghraifft o "curadur dinasyddion" ar y cyd. Mae hi wedi bod yn gweithio gyda siaradwyr Gwyddelig i annog mwy o ymgysylltiad â'r Wicipedia Gwyddelig: Vicipéid. Mae llawer o'r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar wella'r profiad defnyddwyr ar wiki, yn ogystal â gweithio ar yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer golygyddion newydd.