Cydlynydd Hyfforddi (Cymru)
Prosiect Llwybrau Byw!
Cydlynydd Hyfforddi (Cymru)
Yn atebol i: | Robin Owain, Rheolwr Cymru |
Cytundeb: | 6 mis (gan ddechrau ar 1 Chwefror 2014) |
Cyflog: | £11,200 (am 3 diwrnod yr wythnos; 8 awr y diwrnod) |
Gwyliau: | 5 diwrnod a Gwyliau Cyhoeddus |
Nodau'r Prosiect
Nod y Prosiect yw rhoi grym yn nwylo cymunedau a busnesau lleol (sy'n ffinio a'r arfordir) drwy hyfforddiant sgiliau gwe-awduro prosiectau Wikimedia: Wikipedia, Wicipedia, Wikivoyage ayb er mwyn:
- ehangu'r wybodaeth bresennol sydd am y cymunedau a'r busnesau oddi fewn iddynt drwy Brosiectau Wikimedia
- ysgosi ehangu a gwella erthyglau Wicipedia sy'n ymwneud â Llwybr yr Arfordir a'r cyffiniau mewn nifer o ieithoedd, yn debyg i'r hyn a wnaethpwyd gyda Pedia Trefynwy.
- Annog y defnydd o gynnwys rhydd ac agored (wedi'i drwyddedu ar CC-BY-SA neu debyg) er mwyn hyrwyddo datblygiad yr economi lleol drwy dwristiaeth diwylliannol, a
- chefnogi gwaith y gymuned Wikimedia ehangach drwy Gymru.
Amcanion y Prosiect
Bwriedwn wireddu'r amcanion drwy'r canlynol:
- trosglwyddo gwybodaeth, ysbrydoli a hyfforddi pencampwyr i greu cynnwys cyfoethog, lleol
- cefnogi ymdrechion Wicipedia Cymraeg i hyfforddi siaradwyr Cymraeg mewn sgiliau-wici a chodi ymwybyddiaeth o sut i ychwanegu'r cynnwys hwn i Wicipedia
- datblygu sgiliau a hyder siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg i greu cynnwys digidol
- darparu cefnogaeth dechegol, rheolaethol, croes-ddiddordebau (CoI) a chyngor parthed a chynnwys y gwaith
- Archwilio nawdd posibl gan Lywodraeth Cymru ar gyfer technoleg gyfryngol Cymraeg a'u trwyddedu'n rhydd ac agored o fewn Comin Creu
- Sicrhau fod y Prosiect yn dilyn egwyddorion Rheoli Prosiect 'European Sustainable Development (PM4ESD)' drwy:
- gofnodi gwybodaeth yn rheolaidd
- feincnodau safonol wedi'u diffinio a'u monitro
- weithredu targedi'r Prosiect o fewn y gyllideb ac o ran amser
- fonitro risg a rheoli'r rheiny, a
- ddiffinio ystod gwaith a chyfrifoldebau'n glir.
- Creu system 'metrics' er mwyn mesur effeithiolrwydd canlyniadau ac effaith yr hyfforddiant
- creu pencampwyr cymunedol a fydd yn ymfalchio yn Llwybr yr Arfordir, wedi i'r Prosiect ddod i ben
- cynorthwyo I greu adroddiad ar ddiwedd y tymor am y Prosiect
- datblygu sgiliau a hyder siaradwyr y ddwy iaith yng Nghymru fel y gallant barhau i greu cynnwys digidol.
Hyd a lled y Prosiect
Mae hyd a lled y Prosiect yn cael ei ddiffinio gan ei Nodau ac Amcanion, y gyllideb a hyd y Prosiect – a hynny ar draws y 10 x Sir arfordirol o fewn yr Ardal Cydgyfeiriol yng Nghymru sy'n ffinio'r arfordir.
Allan o'r 12 sir sy'n weddill mae 5 o'r rhain yn ffinio a'r Arfordir a 7 nad ydynt. Er hyn disgwylir i'r Cydlynydd Hyfforddi gefnogi Rheolwr y Prosiect i ddatblygu sgiliau-wici o fewn y 12 sir yma hefyd.
Rôl y Cydlynydd Hyfforddi
Prif rôl y Cydlynydd yw cefnogi'r Rheolwr Prosiect wrth gyflwyno newidiadau a hynny o ran blaenoriaethau megis amser, costau, cynllunio, rheoli a chydlynu. Mae hyn yn cynnwys:
- trefnu cyrsiau dros Gymru benbaladr
- hyfforddi grwpiau mewn sgiliau-wici
- cynorthwyo i gynllunio beth sydd angen ei wneud, pa bryd, gan bwy ac i ba safon
- cynorthwyo i gydlynu'r gwaith rhwng gwahanol bobl megis yr aelodau a hyfforddir
- monitro'r gwaith a'r targedau a gwbwlheir i bwrpas hawlio arian
- cynorthwyo i wneud newidiadau i'r cynlluniau
- cynorthwyo i sicrhau fod y canlyniadau'n cael eu cyrraedd
- cynorthwyo i sicrhau fod y Prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb
- cymeryd arno neu arni rôl Dirprwy Reolwr ar adegau
- Deall anghenion y Partneriaid
- Cymdeithas Wici Cymru
- Llywodraeth Cymru
- Wikimedia UK
- Ordnance Survey
- Gweithio o dan awdurdod wedi'i ddirprwyo o Wikimedia UK i Wici Cymru (y contractiwr).
Cyfrifoldeb y Cydlynydd
Mae'r cyfrifoldebau'n cynnwys:
- Hyfforddi – cynllunio a rheoli.
- Cynorthwyo i drefnu gwasanaethau gweinyddol.
- Cynorthwyo i integreiddio cyfryngau a thelegyfryngau.
- Sicrhau fod cyfleusterau a'r defnydd ohonynt yn cyrraedd safon llywodraeth, amgylcheddol, iechyd ac yn saff ym mhob ffordd.
- Darparu cyngor annibynol ar reoli'r Prosiect.
- Cynorthwyo i sicrhau fod Nodau'r Prosiect yn cael eu cyflawni a'r safonau gorau'n cael eu cynnal.
- Cynrychioli diddordeb y Partneriaid.
- Cynorthwyo i drefnu pobl broffesiynol sy'n gweithio ar y Prosiect.
- Asesu risg a diogelwch.
- Rhoi cyngor ar addasrwydd technoleg i gadw cownt o bobl sy'n gweithio ar y Prosiect, pobl sy'n cael eu hyfforddi a'u datblygiad
- Awgrymu gwelliannau i'r Cynllun Gwaith
- Cynorthwyo i arafrnu, gwerthuso a monitro
- Cynorthwyo i greu adroddiadau misol ar y datblygiadau ar gyfer y Partneriaid.
Rhestr gwaith manwl
- Datblygu a gweithredu llinell gymorth fel dilyniant i'r hyfforddiant yn y Gymraeg a'r Saesneg.
- Cynorthwyo gyda chronfeydd data a all yn y man fod o ddefnydd wrth greu erthyglau Wicipedia
- Cynorthwyo i greu a gofalu am flogiau a gwasanaethau rhwydweithio cymdeithasol ar-lein eraill (e.e. Facebook, Twitter) i gefnogi Wicipedia.
- Cynorthwyo i ysbrydoli Wicipedwyr drwy Gymru a gweddill y byd i gyfrannu 3,000 o erthyglau ychwanegol, mewn ieithoedd gwahanol, parthed a llefydd a phethau diddorol ar hyd y Llwybr.
- Cynorthwyo i gyhoeddi 300 o erthyglau newydd gan grwpiau cymunedol
- Cynorthwyo i sicrhau fod gan 2,000 o gymunedau ar hyd siroedd yr arfordir erthygl Wicipedia arnynt, yn Gymraeg ac yn Saesneg
- Cydlynu hyfforddi 180 o bencampwyr cymunedol a all olygu ar Wicipedia yn unol a'r Rhestr Mannau Hyfforddi
- Cynorthwyo i greu rhestr o 1,000 o weithgareddau ar Brosiectau Wikimedia.
- Cynorthwyo i fonitro a chasglu tystiolaeth o'r hyn a gaiff ei greu, a'r canlyniadau tan ddiwedd y Prosiect.
Cymwysterau a'r Profiad Angenrheidiol
Mae'n ofynol fod gan y Cydlynydd brofiad da mewn materion perthnasol megis rheoli, hyfforddi, cyfathrebu a thrin data.
Mae'n rhaid hefyd i'r person a benodir fod yn rhugl ac yn gywir ei iaith a'i sillafu yn y Gymraeg a'r Saesneg a bod a chryn afael yn niwylliant ein cenedl. Mae'n hanfodol hefyd i'r Cydlynydd fod a chefndir academaidd da, a gwybodaeth o sut mae llywodraeth leol a sefydliadau Cymreig yn ymwneud â'i gilydd.
Sgiliau Angenrheidiol
- Cymhwysedd technegol mewn cyfryngau ar-lein a chymdeithasol.
- Dealltwriaeth ac empathi o weledigaeth Wikimedia a phrofiad o weithio o fewn cymuned Wikimedia.
- Profiad o hyfforddi pobl ifanc ac oedolion a threfnu sesiynau hyfforddi, gan gynnwys WordPress, datblygiadau diweddaraf mewn telegyfathrebu a thrin data
- Mwynhau datrus problemau a sgiliau sy'n ymwneud â llythrennedd, rhifeg a sgiliau dadansoddol.
- Medru gweithio o fewn tîm a sgiliau personol, cyfathrebol a hynny ym mhob cyfrwng.
- Gallu ysgogi pobl a gweithio'n annibynol.
- Medru bod yn ddiplomatig a chyda sgiliau rheoli pobl, a medru eu trin yn sensitif.
Mae profiad perthnasol o ddysgu, darlithio neu arall yn hanfodol.
Manylion Cyswllt
Bydd unrhyw ymholiadau parthed y disgrifiad swydd hwn yn cael ei drin yn gyfrinachol; dylid cyfeirio pob gohebiaeth at Brifweithredwr Wikimedia UK. jon.davieswikimedia.org.uk ac ar www.wikimedia.org.uk