Expert outreach/Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol/Golygathon Wici-Iechyd Caerfyrddin

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search
Croeso i dudalen digwyddiad Golygathon Wici-Iechyd Caerfyrddin a drefnir gan Wicimediwr Cenedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dewch i’r digwyddiad yn Yr Atom, Caerfyrddin ar 23 Mawrth 2018

Wici-Iechyd Logo.png

Golygathon Wici Iechyd, Caerfyrddin - yn gryno

  • Ble?: Yr Atom, Caerfyrddin
  • Pryd?: 23 Mawrth, 11 - 3.
  • Cyswllt: Wicimediwr Cenedlaethol y Llyfrgell Genedlaethol, Jason Evans - jje@llgc.org.uk
  • Twitter: @wici_llgc
  • Cost: Am ddim, gan gynnwys cinio ysgafn!.
  • Sut i fynychu?: ebostio jje@llgc.org.uk, ychwanegwch eich enw isod neu mynychwch!
  • Dod â: Gliniadur a Brwdfrydedd! (Bydd rhai gliniaduron ar gael i bobl sydd heb un)

Thema

Golygyddion yn gwella cynnwys am gerddoriaeth mewn Golygathon Wicipedia Cymraeg

Mae'r digwyddiad yma wedi ei drefnu fel rhan o brosiect Wici-Iechyd. Bwriad y digwyddiad yw gwella a chreu erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg am Iechyd. Serch hynny, nid oes angen arbenigedd yn y maes! Bydd modd cyfieithu testun o'r Wikipedia Saesneg ac ail ysgrifennu gwybodaeth o ffynonellau dibynadwy.

Trefn

Bydd y sesiwn yn cychwyn gyda chyflwyniad byr i brosiect Wici Iechyd gan y Wicimediwr Genedlaethol o Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Wedyn bydd gwers sydyn yn dangos sut i olygu, creu a chyfieithu cynnwys ar Wicipedia. I ddilyn, bydd pawb yn cael y cyfle i wella'r cynnwys ar Wici o dan arweiniad Wicipedwyr profiadol.

Mynychwyr

Erthyglau newydd

Erthyglau wedi gwella