Expert outreach/Wikipedian in Residence at the National Library of Wales/Digwyddiad Cymru-Patagonia

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search
Croeso i’r digwyddiad ‘Rhannu a Golygathon - Y Wladfa Gymreig’, a drefnwyd gan Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Casgliad y Werin
Dewch i’r digwyddiad yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 19 Mehefin 2015
Poster ar gyfer y digwyddiad
Aelodau Capel Moriah yn Nhrelew, Patagonia. 1907
Y Mimosa.

‘Rhannu a Golygathon’ Y Wladfa Gymreig - yn gryno

  • Ble?: Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
  • Pryd?: 19 Mehefin, 10y.b - 3y.p.
  • Cyswllt: Wicidepdiwr Preswyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Jason Evans - jje@llgc.org.uk
  • Twitter: @wici_llgc
  • Cost: Am ddim - gan cynwys cinio.
  • Sut i fynychu?: ebostio jje@llgc.org.uk neu ychwanegwch eich enw isod
  • Dod â: gliniadur (neu holi am fenthyg un)
  • Unrhyw beth arall?: Dewch a ffotograffau neu ddogfennau sy'n ymwneud â Phatagonia, y gallwch ei rhannu â Chasgliad y Werin Cymru a Wicipedia

Thema

150 mlynedd yn ôl, yn 1865, hwyliodd criw o Gymru ar y Mimosa o Lerpwl i America: ymfudwyr yn chwilio am fywyd gwell. Ac yna, sefydlwyd (Y Wladfa) ym Mhatagonia gydag ysgolion, eglwysi ac Eisteddfodau Cymraeg. Wynebodd yr arloeswyr sawl her ac ni lwyddodd eu breuddwyd o 'wladwriaeth Gymreig, annibynnol', ond mae eu hetifeddiaeth yn parhau heddiw. Mae'r Gymraeg yn dal i gael ei chlywed heddiw yn y capeli, cartrefi a'r tai coffi ym Mhatagonia. Nod y digwyddiad hwn yw rhannu hanes y gwladychwyr dewr a adawodd popeth ar eu hôl er mwyn hwylio i mewn i gefnfor o ansicrwydd i chwilio am freuddwyd.

Golygathon Wicipedia

Bydd mynychwyr yn cael y cyfle i ddysgu sut i olygu Wicipedia, i ychwanegu a gwella cynnwys sy'n ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Bydd arbenigwyr wrth law i ddarparu adnoddau perthnasol ac i helpu golygu, ac ychwanegu lluniau i Wicipedia.

Mae gan y Wicipedia Cymraeg WiciBrosiect ar y Wladfa, lle ceir syniadau sut y gellir ehangu'r wybodaeth ar Wici ymhellach. Gweler yma.

Casgliad Y Werin - Rhannu

Mae Casgliad y Werin yn eich gwahodd i rannu straeon, ffotograffau, llythyrau, dogfennau a gwrthrychau sy'n ymwneud â'r Gymraeg ym Mhatagonia. Bydd staff wrth law i sganio a chofnodi eich deunydd a'u huwchlwytho ar lwyfan Casgliad y Werin lle y gellir eu rhannu gyda'r byd. A beth am ryddhau eich lluniau efo Wicipedia ar yr un pryd? Fel y gellir eu hychwanegu at y gwyddoniadur mwyaf yn y byd.


Cofrestru

Mae’n bwysig iawn i gofrestru eich diddordeb cyn y digwyddiad. Ychwanegwch eich manylion yma os ydych am ddod, neu gysylltu efo'r Llyfrgell Genedlaethol yn uniongyrchol:

Ychwanegwch eich enw yma...

Nifer y delweddau sydd wedu eu rhannu efo Wikipedia

Tua 400 (I ychwanegu at Comin yn fuan)

Erthyglau wedi eu gwella

Erthyglau newydd


Delweddau o'r Olygathon

Gwefannau Allanol

Gweler Hefyd