Hyfforddi'r Hyfforddwyr, Chwefror 1- 2, 2014

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

Cymraeg | English

Aelodau Wikimedia DU; Chwefror 2014.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer gwirfoddolwyr sy'n dymuno chwarae rhan flaenllaw yn rhaglen hyfforddi Wikimedia UK. Ymholiadau: katie.chanatwikimedia.org.uk.

Ble a phryd?

Cynhelir y gweithdy ar benwythnos 1 - 2 o Chwefror 2014 yng Nghaerdydd. Bydd yn cael ei gynnal gan arbenigwyr yn y maes hwn. Targedir y cwrs at ddefnyddwyr Cymraeg eu hiaith, er y bydd y cwrs hefyd yn croesawu'r di-Gymraeg os na fydd digon yn ymateb.

Amseroedd: Sadwrn 9:30am - 6:30pm, Sul 9:00am - 5:00pm. Bydd brecwast ysgafn a chinio'n cael ei ddarparu am ddim. Mae cyrraedd yno mewn pryd yn hanfodol, felly peidiwch a chynnig eich cais am le os y gwyddoch na fyddwch yno ar ddechrau'r cyfarfod ar fore dydd Sadwrn. Rydym yn cynnig eich cynorthwyo gyda chostau teithio ac aros.

Mae'r cwrs ar gyfer aelodau Wikimedia UK sy'n credu y gallant ymrwymo'u hunain i hyfforddi ar gyrsiau eraill. Gall eich maes fod yn unrhyw un neu ragor o brosiectau Wikimedia ee Comin, Wicieiriadur neu Wicipedia.

Ceir ymateb i gyrsiau'r gorffennol yma (yn Saesneg).

Amcanion

Er fod rhai o'n haelodau'n barod yn cymryd cyrsiau o safon uchel, mae'r cwrs hwn yn eich cymryd i lefel uwch o ran cyflwyno eich hyfforddiant. Mae'n gyfle i chi:

  • gael eich achredu a derbyn adborth o safon uchel iawn ar eich cyflwyniadau a'ch hyfforddiant
  • dderbyn sgiliau cyffredinol mewn hyfforddi y medrwch wedyn eu defnyddio ar gyrsiau eich hunan
  • rannu eich sgiliau a'ch gwybodaeth gydag eraill
  • ddatblygu eich gallu i gynllunio hyfforddiant i eraill

Mae'r nifer y medrwn ei dderbyn wrth gwrs yn gyfyngedig er mwyn i ni sicrhau fod pob unigolyn yn derbyn y sylw haeddiannol o ran cyflwyno ac adborth, felly nodwch isod y rhesymau pam y dylech gael eich derbyn a beth sydd gennych chi i'w gynnig.

Manylion y cwrs

Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau aelodau'r cwrs gan eu galluogi i gyflwyno cyrsiau o'r safon uchaf, ac sy'n datblygu eu sgiliau presennol. Nodwch mai ymwneud â hyfforddi ac nid cyflwyno mae'r cwrs hwn yn bennaf. Fyddwn ni ddim, felly'n edrych ar gynnwys y cyrsiau.

Ar diwedd y cwrs bydd yr aelodau'n medru:

  • Gosod amcanion hyfforddi a stwythuro sesiynnau gyda chynnwys addas er mwyn cyrraedd yr amcanion a osodwyd
  • Cyflwyno gwybodaeth yn glir i gynulleidfaoedd gwahanol gyda chymorth cyfarpar clyweled
  • adnabod ffyrdd gwahanol i wneud y sesiynnau'n fwy rhyngweithiol a delio gyda chwestiynnau mewn modd mwy proffesiynol

Ar ddiwewdd y cwrs bydd yr aelodau'n derbyn adborth preifat dros y ffôn am gyfnod o oddeutu awr. Mae hyn yn sicrhau cyfle dwys o edrych arnyn nhw'u hunain ac ar yr hyn maent wedi'i ddysgu.

Bydd aelodau'r cwrs yn:

  • deall mor amrywiol y gall cyrsiau fod o ran yr hyfforddi a'r addysgu, a'r gynulleidfa
  • ymateb yn addas i anghenion hyfforddwyr gwirfoddol
  • deall effaith gwahanol fathau o addysgu a chyfathrebu tra'n llunio'r hyfforddi a thra'n cyflwyno'r hyfforddiant
  • datblygu eu sgiliau o wrando er mwyn llywio'u hymateb i aelodau eu cyrsiau
  • cyflwyno adborth i aelodau eraill o'r cwrs

Ceisiadau

Gwnewch eich cais ar y ddalen Saesneg os gwelwch yn dda (gallwch sgwennu'n Gymraeg!) er mwyn cadw'r cyfan mewn un man.

Lleoliad

Lleoliad y cwrs fydd: Thistle Cardiff City Centre: The Parc. Cyfeiriad: Park Place, Caerdydd CF10 3UD.

Aros

Bydd Wikimedia UK yn talu am eich llety a fydd wedi'i leoli'n agos at y cwrs, os ydych ei angen. Rhowch wybod i ni os ydych.

Cyfarpar

Bydd yr hyfforddiant yn digwyd ar ffurf ystafell ddosbarth gyda bwrdd gwyn, sgrin rhyngweithiol, diwifr am ddim ayb wedi'u darparu ar eich cyfer. Byddwn hefyd yn darparu lluniaeth.