- Recordiau Sain yn rhoi 7,000 o ffeiliau sain ar Comin
- Datganiad i'r wasg; 26 Mehefin 2017
Mewn partneriaeth gyda golygyddion yr Wicipedia Cymraeg, Wikimedia UK, Llywodraeth Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae Sain (Recordiau) Cyf. (www.sainwales.com) wedi agor peth o’u cynnwys cerddorol ar un o drwyddedi agored, er mwyn ei rannu gyda chynulleidfa ehangach. Bellach, mae dros 7,000 o glipiau sain a lluniau clawr 498 albwm ar gael am ddim ar wefan Comin Wicimedia.
Mae’r cam hwn yn gyffrous iawn gan ei fod yn gosod Sain (Recordiau) Cyf. ar frig y don agored lle gwelir gwybodaeth - a’r mynediad at yr wybodaeth honno - yn gwbl rydd ac agored!
Dyma’r unig gwmni drwy’r byd i wneud hyn, a rhagwelir y bydd golygyddion a golygyddion gwefannau drwy’r byd yn medru defnyddio’r ffeiliau hyn e.e. i greu a gwella erthyglau ar Wicipedia ar gannoedd o gerddorion o Gymru, yn unigolion, bandiau, grwpiau neu gorau. Gan fod yr holl ffeiliau hyn ar drwydded Attribution-ShareAlike 3.0 Unported (CC BY-SA 3.0), gallant gael eu defnyddio a’u rhannu cyn belled bod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i Sain (Recordiau) Cyf., gyda dolen hefyd i’r drwydded ac y nodir os gwnaed unrhyw newid i’r gwaith. Os yw’r ffeiliau’n cael eu rhannu ymhellach, mae’n rhaid eu rhoi o dan yr un drwydded.
SYLWADAU:
Dafydd Roberts, Prif Weithredwr Sain (Recordiau) Cyf.: “Mae’r bartneriaeth hon yn gyfle gwych i ni a’n hartistiaid ni ac yn caniatáu i eraill i gael gwybodaeth am gerddoriaeth Cymraeg a Chymreig. Gan Sain mae’r catalog mwyaf o recordiadau Cymreig ledled y byd ac mae’r prosiect yma’n gyfle da i rannu’r clipiau sain a’r lluniau cloriau o’r catalog hwn gyda gweddill y byd.”
Dywedodd Lona Mason, Pennaeth Sgrin a Sain Cymru: “Mae’r Llyfrgell wrth ei bodd gyda’r bartneriaeth hon gyda Llywodraeth Cymru a Sain (Recordiau) Cyf. ac yn gweld y prosiect yn un hynod o bwysig. Mae’n newyddion da i’r byd cerdd yng Nghymru, ac i gasglwyr a chefnogwyr y sin hwnnw drwy’r byd! Mae’n rhoi llwyfan allweddol a fydd yn galluogi i bobl ifanc ac eraill rannu a mwynhau casgliadau Sain a recordiwyd dros y blynyddoedd.”
Lucy Crompton-Reid, Prif Weithredwr Wikimedia UK: “Mae ffeiliau sain yn rhoi dimensiwn cyffrous a phwysig i Wicipedia ac mae rhyddhau’r casgliadau hyn yn cyfoethogi’r gwyddoniadur gyda cherddoriaeth Gymreig - clasurol, gwerin a chyfoes, a mynediad agored hwylus iddyn nhw. Dw i’n gobeithio’n fawr y bydd eraill yn dilyn yr esiampl anhygoel yma ac y gwelir rhyddhau rhagor o gynnwys dan drwydded agored. Llongyfarchiadau i bawb a fu wrthi!”
Rheolwr Wicimedia Cymru yw Robin Owain, a dywedodd: “Does 'na run cwmni arall drwy’r byd wedi rhyddhau eu casgliadau’n agored. Bydd pob iaith yn elwa - mae 'na 295 Wicipedia drwy’r byd a fydd yn elwa o fedru ychwanegu’r ffeiliau hyn i’w herthyglau - a gall unrhyw gwmni dan haul eu rhoi ar eu gwefannau. Buom yn ‘Wlad y Gân’ ers tro byd, ond mae hyn yn rhoi’r genedl ar flaen y gad o ran cynnwys agored, digidol yn ogystal â cherddoriaeth!
- Dolenni allanol
- Arolwg o ddarllenwyr y Wicipedia Cymraeg
- Blog gan Richard Nevell ac RO; Chwefror 2017.
- Mae'r Arolwg cyfan i'w weld yma.
Yng ngwanwyn 2017 ymatebodd 101 o ddarlenwyr yr Arolwg. Dyma'r tro cyntaf i ni gasglu gwybodaeth fel hyn; gyda thros gant wedi ymateb, mae'r wybodaeth yn rhoi cyfeiriad i'n gwaith o ddarblygu Wicipedia ymhellach.
Ar y cyfan, mae’r arolwg hwn yn cyfleu darlun cadarnhaol o ddarllenwyr Wicipedia Cymraeg. Mae cyfansoddiad demograffig y gynulleidfa yn debyg i’r hun a ganfuwyd yn ystod arolwg rhyngwladol Sefydliad Wicimedia (neu'r WMF) yn 2011, ac mae’r ystod oedran yn debyg i ystod oedran siaradwyr Cymraeg yng nghyfrifiad y DU yn 2011.
Pa un o’r canlynol yw’r disgrifiad gorau o lefel eich addysg?Ymatebodd 101 o bobl i’r cwestiwn hwn.
Mae gan y gwyddoniadur ddarllenwyr brwd a rhai llai aml, ac mae cyfran iach o’r rheiny yn bobl sy’n dymuno dysgu sut i gyfrannu at Wicipedia. Mae gwahaniaeth amlwg o ran sut hoffai dynion a merched ddysgu am olygu; dangosodd yr Arolwg y byddai’n well gan ddynion gael cyfarwyddiadau ysgrifenedig a byddai’n well gan fenywod gael digwyddiadau wyneb yn wyneb byw. Mae hyn yn awgrymu fod y dull a ddefnyddir gan Wikimedia UK a Wicipedwyr preswyl – yn enwedig Jason Evans yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru – yn canolbwyntio ar bobl sydd ar y cyfan wedi’u tangynrychioli ymhlith golygyddion Wicipedia.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn tueddu i ddefnyddio Wicipedia Cymraeg er diddordeb neu hwyl, ond mae canran sylweddol hefyd yn ei ddefnyddio at ddibenion gwaith ac addysg. O gofio fod pobl dan 25 mlwydd oed yn fwy tebygol o fod mewn addysg, nid yw’n syndod efallai fod hanner y garfan honno yn defnyddio Wicipedia at ddibenion ysgol neu brifysgol, ond mae hynny’n awgrymu derbyniad calonogol o Wicipedia fel ffynhonell o wybodaeth.
Roedd darllenwyr yn gadarnhaol ar y cyfan ynghylch cynnwys Wicipedia, ac er mai ehangder y meysydd a gwmpasir oedd y maes gwannaf, roedd tri chwarter y bobl yn dal yn credu fod Wicipedia yn gwneud yn dda yn y cyd-destun hwn. Y ffactorau allweddol sy’n annog pobl i ddarllen Wicipedia oedd y ffaith ei fod wedi’i ysgrifennu mewn ffordd hawdd ei ddeall a dyfnder yr ymdriniaeth â phynciau – dwy elfen sy’n neilltuol o bwysig er mwyn annog pobl i ddychwelyd at y safle fel adnodd. Ar y cyfan, pwysleisiodd yr arolwg hwn bwysigrwydd digwyddiadau wyneb yn wyneb byw er mwyn sbarduno gwella sgiliau golygu.
Cyfartaledd pobl y DU sydd a gradd prifysgol yw 29.7%. Fodd bynnag, mae cyfartaledd darllenwyr Wicipedia Cymraeg sydd a gradd prifysgol yn 81.5%. Mae hyn yn wahaniaeth anferthol! Gwahaniaeth mawr arall yw mai dim ond 6% o ddarllenwyr Wikipedia bydeang (Arolwg Sefydliad Wicimedia; 2011) sydd wedi golygu, ond mae 32% o ddarllenwyr cy-wici wedi golygu yn ogystal a darllen.
- I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â phob un o’r datganiadau canlynol ynghylch ansawdd erthyglau Wikipedia yn Gymraeg?
|
Anghytuno'n llwyr
|
Anghytuno
|
Dim barn
|
Agree
|
Cytuno'n llwyr
|
Cyfanswm
|
Mae’r wybodaeth yn gywir ac yn ddibynadwy |
3 |
5 |
5 |
64 |
18 |
95
|
Mae’r wybodaeth yn cynnig trosolwg eithaf da o rai pynciau |
1 |
6 |
5 |
53 |
31 |
96
|
Mae’r wybodaeth yn niwtral ac yn ddideudd |
2 |
4 |
10 |
58 |
22 |
96
|
Mae’r wybodaeth yn cwmpasu ystod eang o bynciau |
1 |
10 |
12 |
44 |
29 |
96
|
Gall rhywun sydd ddim yn arbenigwr ddeall yr wybodaeth |
1 |
2 |
7 |
58 |
26 |
94
|
Ond, efallai'n bwysicach na dim, roedd 82 o'r darllenwyr a ymatebodd (86% o'r rhai hynny a oedd a barn ar hyn) o'r farn fod y 'wybodaeth yn gywir ac yn ddibynadwy', a dim ond 8 yn anghytuno. Roedd 80 (88%) o'r farn fod y 'wybodaeth yn niwtral ac yn ddideudd' a dim ond 6 yn anghytuno. Roedd 91% o ferched yn credu fod y Wicipedia Cymraeg yn gywir, yn ddibynadwy ac yn niwtral. Mae hyn yn uwch na'r farn byd-eang (a wnaed yn 2011) ac yn cadarnhau ein bod ar y trywydd iawn.
- Penodi Wicipedwraig Preswyl Gaeleg yr Alban
- Blog gan RO; Chwefror 2017.
Am y tro cyntaf erioed penodwyd Wicipedwraig Breswyl i ddatblygu Wicipedia Gaeleg yr Alban (Uicipeid): Dr Susan Ross. Mae'r swydd sydd wedi'i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin yn para blwyddyn. Dysgodd Susan Aeleg pan oedd yn ferch ifanc ac ers hynny, derbyniodd Ddoethuriaeth mewn Astudiaethau Gaeleg ym Mhrifysgol Glasgow. Mae'r swydd hon yn dilyn dau benodiad tebyg yng Nghymru: Marc Haynes yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Jason Evans yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bydd yn gweithio gyda'r gymuned Aeleg ei hiaith ledled yr Alban, gan gynnwys Ynysoedd Heledd.
Ar hyn o bryd mae gan Uicipeid dros 14,000 o erthyglau, o'i gymharu â 39,300 yn y Wyddeleg, 61,000 mewn Llydaweg a 90,000 yn Gymraeg.
Cychwynodd olygu Uicipeid yn 2010, pan oedd ym Mhrifysgol Glasgow. Dywedodd Susan: "Mae cyfrannu i'r Uicipeid yn datblygu storfa o wybodaeth a fydd ar gael yn ein hiaith am amser hir, storfa o bethau lleol a bydeang a storfa y gellir ei rhannu at drwydded agored. Mae'n gyfle euraidd i siaradwyr yr iaith i ymarfer eu sgiliau darllen a sgwennu, mewn awyrgylch anffurfiol o fewn cymuned wici, a mi rydw i'n hynod o gyffrous am y prosiect yma!"
Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth tair ffordd: Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Bòrd na Gàidhlig (sy'n ei ariannu) a Wikimedia UK.