Cy Blog Archives 1

From Wikimedia UK
Jump to navigation Jump to search

Dychwelyd i'r dudalen gyfoes

Archif 2013
Tudalen wedi'i harchifo yw hon.


Y Gymdeithas Frenhinol (The Royal Society) yn penodi Wikimediwr mewn Gwaith
20 Rhagfyr, 2013 gan Richard Nevell
John Byrne yn Hydref 2013

Pleser o'r mwyaf yw cyhoeddi fod John Byrne (Defnyddiwr:Johnbod) wedi'i benodi'n Wikipediwr mewn Gwaith yn y Gymdeithas Frenhinol (The Royal Society) sef academi gwyddonol cenedlaethol gweledydd Prydain a Gogledd Iwerddon.

Mae wedi cychwyn ar ei waith ers y cyntaf o Ionawr 2014, am gyfnod o chwe mis. Telir y rhan helaethaf o'i gyflog gan Wikimedia UK. Cynllun peilot yw hwn i fraenaru'r tir gyda'r gobaith o bartneriaeth closiach a dyfnach yn y dyfodol.

Gobeithir agor casgliadau hanesyddol y Gymdeithas (ar drwydded agored), gwella ansawdd erthyglau gwyddonol ar brosiectau Wikimedia a gwella'r wybodaeth am wyddonwyr o fewn grwpiau lleiafrifol.

Mae John yn hen law ar olygu a gweinyddol prosiectau Wikimedia: bu'n 'Wicimediwr y Flwyddyn' yn 2012 a gweithredodd fel ymddiriedolwr yr elusen am rai blynyddoedd. Dywedodd, “I’ve already been planning an exciting programme with Royal Society staff, including plenty of events. Some of these will be aimed at Royal Society staff while others are intended to meet the needs of scientists and the general public."

Darllenwch ragor yma




WiciAddysg ym Mae Caerdydd
Rodney Dunican o UDA yn traddodi ei araith yn WiciAddysg 2013

Daeth Wicipedwyr ledled y byd i Fae Caerdydd ar ddechrau Tachwedd 2013 i drafod materion addysg agored; hwn oedd yr ail gynhadledd o'i fath.

Ceisiodd y gynhadledd ateb rai o'r problemau (parthed addysg a gwybodaeth rydd ac agored) a wynebai addysgwr a Wicipedwyr ein mudiad, gan gynnwys: sut rydym yn hyrwyddo llythrennedd digidol, sut i atal llên-ladrad o Wicipedia i waith ysgolion a phrifysgol a sut rydym yn asesu gwaith newydd-ddyfodiaid ar Wicipedia a Wikipedia. Ystyriwyd a thrafdodwyd hefyd y data am ddefnyddwyr (sgwennwyr a golygwyr), sef learning analytics drwy'r defnydd o offer digidol ar y we.

Daeth academyddion, myfyrwyr, llyfrgellwyr a staff atodol at ei gilydd yn ogystal a chyfranwyr i Wicipedia, Wikipedia a Wikiversity. Gareth Morlais, Arbenigwr Cyfryngau Digidol y Llywodraeth, oedd y Prif Siaradwr Gwadd Gareth Morlais a nododd bwysigrwydd y Wicipedia Cymraeg wrth i gwmniau megis Google flaenoriaethu eu darpariaeth mewn iaith leiafrifol. Cyflwynodd yn Gymraeg, gyda'r Prifardd Sion Aled yn cyfieithu ar y pryd i aelodau di-Gymraeg y gynhadledd.


Darllenwch ragor yma



Enillwyr Cystadleuaeth Rijksmonument (Wiki Loves Monuments)
30 Hydref 2013 gan Stevie Benton
Anfuddugol: Eglwys San Silyn, Wrecsam

Braf iawn gennym ni yma yn Wikimedia UK ydy cyhoeddi enwau enillwyr WLM 2013. Hon yw cystadleuaeth ffotograffiaeth fwya'r byd. Y nod yw tynnu lluniau (ffotograffau) o ansawdd uchel, o adeiladau cofrestredig - Gradd I neu I*.

Ymgeisiodd 570 yma yng ngwledydd Prydain a gogledd Iwerddon gan gyfrannu dros 12,000 o ffotograffau i Gomin Wikimedia, sef un o gronfeydd ffeiliau mwyaf y byd sy'n defnyddio trwyddedau agored megis CC-BY-SA. Mae miloedd o olygyddion Wicipedia eisioes wedi dechrau eu defnyddio nhw i roi chydig o liw ar y gwyddoniadur arlein.

Yn ôl un o'r beiriniaid, sef Steve Cole (Pennaeth adran ffotograffeg English Heritage), ”Creodd y gystadleuaeth amrywiaeth fantastig o bynciau ac arddulliau gwahanol. 'Doedd dewis yr enillydd ddim yn hawdd! Mae'r llun arobryn wedi ei osod yn dda ac mae'n llawn teimlad.”

Mae'r holl luniau a dynnwyd o Gymru (a gwledydd eraill) i'w gweld yma.

Darllenwch ragor yma


Gwybodaeth am gansar y fron ar Wicipedia
24 Hydref 2013 gan Stevie Benton
Rhai o aelodau'r sesiwn olygu

Mae tua 55,000 o bobl yn cael eu canfod â chansar y fron arnyn nhw'n flynyddol yng ngwledydd Prydain, clefyd sy'n eu heffeithio nhw, eu teuluoedd a'u ffrindia. Gan fod Hydref yn fis codi'r ymwybyddiaeth o gansar, daeth aelodau o Wikimedia UK a Breast Cancer Care at ei gilydd am sesiynnau arbenigol o olygu erthyglau yn ymwneud a'r pwnc ar Wikipedia.

Mae miliynau o bobl yn darllen yr erthyglau hyn yn flynyddol. Heddiw, gallem gyhoeddi ffigurau darllen y 3 mis dwaethaf: darllenwyd y brif erthygl hon ar gansar y fron dros 261,000 o weithiau. Oherwydd mai Wikipedia ydy'r ffynhonnell cyntaf y daw lawer o ddarllenwyr ar ei thraws, mae'n hynod bwysig fod yr wybodaeth sydd arni'n gywir ac mor gyfoes a phosibl.

Dyna pam roedd Breast Cancer Care yn awyddus i gydweithio â ni yn y sesiynnau golygu hyn.

Darllenwch ragor yma


Cyhoeddi ymddiriedolwyr newydd ar fwrdd Wikimedia UK
1 Hydref 2013 gan Stevie Benton

Ymfalchia Bwrdd Wikimedia UK yn y cyhoeddiad fod dwy ymddiriedolwraig newydd wedi'u cyfethol i'r Bwrdd: Carol Cambell a Kate West. Mae gan y ddwy arbenigedd addas iawn. Cyfranodd Carol yn helaeth i fudiadau gwirfoddol ac mae ganddi sgiliau arbennig mewn rheoli gwrthdaro ac adeiladu perthynas rhwng pobl. Bu'n swyddog gydag Eglwys Gadeiriol Ely. Mae Kate yn Brif Swyddog Gwasanaethau yn y Gymdeithas Diwygio Etholiadau (The Electoral Reform Society) ac mae'n dod a sgiliau llywodraethol, rheolaethol, polisiau a chynllunio i'r Bwrdd. Croeso cynnes i'r ddwy. Gallwch ddisgwyl rhagor yn ymuno cyn hir, yn enwedig aelodau o gymuned Wikimedia.



Rhannu gwybodaeth rhydd ac agored yn y Prifysgolion
Swyddogion Cymdeithas Wicipedia Prifysgol Caergrawnt
Addasiad o erthygl gan Stevie Benton; 5ed o Fedi, 2013 gan Robin Owain, Rheolwr Cymru.

Dros yr haf mae Wikimedia UK wedi ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth pobl o'r hyn rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr prifysgol drwy eu cynorthwyo i sefydlu Cymdeithas Wicipedia yn eu prifysgol. Ceir nifer o gymdeithasau yn Lloegr gan gynnwys yr "Imperial" yn Llundain a Phrifysgol Caergrawnt, ond hyd yma, does dim un yng Nghymru.

Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn cynorthwyo Prifysgol Abertawe i sefydlu cymdeithas o fyfyrwyr Wicipedaidd a phrosiect ehangach drwy'r coleg. Yn Lloegr a'r Alban, byddwn yn canolbwyntio ar Brifysgolion Dundee, Manceinion, Hull/Scarborough a Llundain.

Gallem ymuno gyda'r myfyrwyr yng nghyfarfod y cymdeithasau yn ystod "Wythnos y Glas, i egluro ein hymgyrch dros gynnwys agored a dulliau o ddefnyddio Wicipedia fel llwyfan i aseiniadau academig. Bydd ein gwirfoddolwyr lleol, golygyddion profiadol a staff yn bresenol i gynorthwyo. Os ydych yn dymuno i ni fod yn rhan o "ffair y cymdeithasau" yn ystod yr wythnosau nesaf yna cysylltwch efo Robin Owain, Rheolwr Cymru ar info@wikimedia.org.

Mater bach ydy cofrestru eich cymdeithas Wicipedia newydd efo WMUK, a gallem wneud hyn yn sydyn iawn, os yw amser yn brin. Ceir rhagor o fanylion ynglyn a'r hyn a allem ei gynnig i fyfyrwyr yma, a cheir disgrifiadau eitha trylwyr o weithgareddau rhai gymdeithasau o wahanol brifysgolion yn fama. Os allwch symud yn sydyn - cyn y 10fed o Hydref - yna cewch eich gwahodd i Gynhadledd WiciAddysg, 2013 yng Nghaerdydd. Mae'r gwesteion / siaradwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, JISC a Phrifysgol Abertawe, gyda'r niferoedd yn cynyddu o ddydd i ddydd.

Doed dim rhaid wrth gymwyster arbennig i alw cyfarfod o gymdeithas Wicipedia - dim mond fod gennych ddiddordeb mewn cynnwys rhydd, golygu gwyddoniadur digidol, torri tir newydd a brwdfrydedd heintus! Cysylltwch a ni ar fyrder!




Sphingonet a Wikipedia
Y golygathon yn ei anterth
Sgwennwyd y blog hwn gan Edward Hands, un o wirfoddolwyr Wikimedia UK.

Ydy teitlau megis “Reanimating Ice-cold Rats” a “Resuscitating Hamsters” yn mynd i ysbrydoli gwyddonwyr benywaidd i olygu erthyglau gwyddonol ar Wicipedia?

Dyma un o'r cwestiynnau a ofynwyd mewn golygathon a sesiwn hyfforddi diweddar a drefnais ar y cyd gyda y Cyngor dros Ymchwil Meddygol (Medical Research Council) a'r Gymdeithas Frenhinol (Royal Society), yn y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Meddygol (National Institute for Medical Research (NIMR)), Mill Hill, Llundain, gydag ugain o ferched a thri gŵr doeth a dewr!

Roedd y digwyddiad yn cynnwys siaradwr gwadd a phanel cwestiwn-ac-ateb wedi ei arwain gan yr Athro Dame Athene Donald FRS, a nododd nifer o resymau pam fod hi'n anoddach i ferch gael dyrchafiad i'r swyddi gorau yn y byd gwyddonol. Beth a ddaeth i'r wyneb oedd yr anghydbwysedd, neu'r rhagfarn a wynebant, a sut y gellid goresgyn y problemau hyn e.e. drwy hyfforddi rhagor o ferched i olygu Wicipedia a llenwi'r bylchau o ran gwyddonwyr benywaidd o nod.

Trefnwyd y sesiwn ar 25 Gorffennaf, 2013, sef diwrnod pen-blwydd Rosalind Franklin (brenhines DNA), a dathlwyd y digwyddiad hwnnw gyda chlamp o gacen. Roedd y deisen yn gyforiog o eisin ar ffurf helics dwbwl a'r llun enwog ohoni (sef "ffotograff 51") yn coroni'r cyfan. Ac ar ben hyn, roedd y lleoliad yn arbennig, gydag un o'r golygfeydd gorau o Lundain. Roedd cyngor arbenigol wrth law a phapurau a llyfrau dethol wedi'u darparu gan lyfrgellwyr NIMR: Frank Norman, Patti Biggs, a Phoebe Harkins o'r Wellcome Library. [http://blog.wikimedia.org.uk/2013/08/revitalising-wikipedia-coverage-of-women-scientists/

Darllenwch ragor yma


Sphingonet a Wikipedia
Daria Cybulska (ail o'r chwith), aelod o staff Wikimedia yn cynorthwyo ymchwilwyr meddygol i olygu Wicipedia.
Sgwennwyd gan Richard Nevell.

Ar y 10fed o Orffennaf 2013, teithiodd pedwar o hyfforddwyr Wikimedia UK i Rydychen i gyfarfod grwp o ddoethuriaiad ymchwil israddedig ac ôl-raddedig. Cafwyd y syniad yn wreiddiol nôl yn Chwefror a hynny gan Luc Henry. Cynlluniwyd yn ofalus cyn y digwyddiad a gofalodd Luc fod y trefniadau'n berffaith! Cyflwynwyd yr hyfforddiant gan bedwar ohonom: Toni Sant, Daria Cybulska, Brian Kelly a minnau.

Ymchwil i fewn i sphingolipids gan ymchwilwyr cynnar ydy Sphingonet; ac mae'n gynllun ar gyfer ymchwilwyr o bum gwlad. Cânt eu harianu gan raglen ymchwil Marie Curie Actions yr Undeb Ewropeaidd. Fel rhan o'u gwaith, mae ganddynt weithgareddau pwrpasol ar gyfer hysbysu'r cyhoedd o'u canfyddiadau. Prin iawn yw'r rhai sy'n cyrraedd cymaint o gynulleidfa a Wicipedia, fodd bynnag! Yn bresenol hefyd roedd y Wicipewraig mewn gwaith yn Llyfgrell Genedlaethol yr Alban.

Darllenwch ragor yma


Mike Peel yn ymddiswyddo o Fwrdd Wikimedia UK
27 Gorffennaf 2013 gan Stevie Benton
A photo of Mike Peel
Mike Peel

Gyda gofid y cyhoeddwn i Mike Peel ymddiswyddo fel un o ymddiriedolwyr ein helusen.

Mae cyfraniad Mike dros y blynyddoedd i'r elusen ac i'r mudiad Wikimedia'n cael ei werthfawrogi a'i edmygu gan bawb. Daeth yn Wicipediwr yn 2005 ac yn un o sylfaenwyr Wikimedia UK. Bu'n aelod o Fwrdd yr elusen, yn gadeirydd ac yn ysgrifennydd yn ei dro a hynny ers sefydlu'r Bwrdd yn 2008. Mae ei gyfraniad yn amhrisiadwy ac yn rhy niferus i'w rhestru yma! Yn wir, byddai'n ganmil haws rhestru'r prosiectau NAD ydyw wedi bod yn rhan ohonynt.

Dywedodd Chris Keating, Cadeirydd Wikimedia UK: "Ni fyddai WMUK yn bodoli heb gyfraniad Mike dros y blynyddoedd. Bu'n allweddol yng ngweithgareddau'r Bwrdd. Mae ganddo synnwyr moesoldeb di-syfl, dyfalbarhad ac mae gwaith caled yn ei galon! Yno hefyd mae ei weledigaeth a'i werthoedd o'r hyn rydym yn ceisio'i gyrraedd a'i gyflawni."

Mae Mike yn awyddus iawn, fodd bynnag, i roi ei ynni yng ngwaith Pwyllgor Rhannu Arian Wikimedia Foundation a dychwelyd at rai prosiectau eraill sydd gan Wikimedia. Bydd hefyd yn parhau ei gysylltiad agos gyda Wici Cymru a'r prosiect Llwybrau Byw!.

Darllenwch ragor yma


Ashley Van Haeften yn ymddiswyddo o Fwrdd Wikimedia UK
13 Gorffennaf 2013; gan Stevie Benton

Cyhoeddodd Wikimedia UK fod Ashley Van Haeften (Defnyddiwr:Fae) wedi penderfynnu ymddiswyddo fel ymddiriedolwr yr elusen, a hynny ar unwaith.

Cyfrannodd Fæ yn helaeth at waith y mudiad Wikimedia a'r elusen ers iddo gael ei ethol i'r bwrdd yn Ebrill 2011, gan Gadeirio rhwng Ebrill 2012 ac Awst 2012.

Mae Wikimedia UK yn diolch iddo ac yn gwerthfawrogi'r gwaith da, yr amser a roddodd a'i arbenigedd dros y ddwy flynedd diwethaf. Gobeithiwn yn fawr y gwneith barhau i gyfrannu yng ngweithgareddau'r Siapter fel aelod a dymunwn yn dda iddo yn y dyfodol.

Bydd y Bwrdd yn trafod cyfethol rhywun yn ei le a bydd datganiad arall yn cael ei wneud cyn hir.

Darllenwch ragor yma


Casgliad o Ddelweddau o Ganada yn y Llyfrgell Brydeinig sydd bellach ar Gomin Wicipedia
Enghraifft o un o'r delweddau
Enghraifft o un o'r delweddau o'r Casgliad
5 Gorffennaf 2013. Sgwennwyd y postiad hwn gan Andrew Grey a Philip Hatfield ac fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol ar

flog Wikimedia Foundation yn fama.

Roedd y cyntaf o Orffennaf yn Ddiwrnod Canada, a chyhoeddodd Wikimedia UK a'r Llyfgell Brydeinig (BL) eu bônt wedi rhyddhau 2,000 o hen ffotograffau o Ganada.

Ers Medi 2012, buom yn gweithio'n digideiddio casgliad o ffotograffau hanesyddol o Ganada gan eu rhyddhau ar Gomin Wicipedia ac felly i'r parth cyhoeddus. Daeth y casgliad yn eiddo i'r BL rhwng 1895 a 1924 ac mae'n cynnwys ffotograffau cyfraniad hawlfraint gan ffotograffwyr y cyfnod hwnnw. Trefnwyd y cyfraniad hawlfraint hwn drwy ddeddf drefedigaethol parthed hawlfraint ("Colonial Copyright Law"), a geisiodd ymestyn deddfau hawlfraint Prydeinig dros ei hymerodraeth. Yn ymarferol, roedd y ddeddf hon yn fethiant llwyr a dim ond llond dwrn o diriogaethau wnaeth ei pharchu drwy gyfrannu deunydd. Ond hyd at 1925, fe wnaeth Ganada hynny a gweinyddodd yr Adran Amaeth y ddeddf ar eu rhan. Danfonwyd copi o bob eitem i Ottawa ac i Lundain, ble gawsant eu harchifo gan y BL ac yna eu anghofio am ddegawdau.

Mae'r casgliad yn cynnwys llyfrau wedi'i cyhoeddi, cerddoriaeth, mapiau ac wrth gwrs, ffotograffau. Er fod y ffotograffau, ar y pryd, yn cael eu cyfri fel pethau dibwys, maent bellach yn cael eu cyfri fel cip ar fywyd yng Nghanada ar adeg tyngedfenol yn ei hanes; 30 mlynedd o ddatblygiad y Cyd-ffederasiwn, yn wleidyddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol tra'n ceisio cydnabyddiaeth fydeang. Mae'r casgliad felly'n groesdorriad gweledol o wladwriaeth yn newid, o Vancouver i Halifax gyda ffotograffwyr mân a mawr megis Frank Micklethwaite or William Notman.

Mae'r lluniau i'w cael yma ar Gomin Wicipedia.

Darllenwch ragor yma


Wikimedia UK yn penodi Rheolwr i Gymru
Robin Owain
Robin Owain
2 Gorffennaf, 2013

Pleser o’r mwyaf yw cyhoeddi penodiad Robin Owain, ein Rheolwr cyntaf yng Nghymru.

Dechreuodd Robin ar y gwaith heddiw, a bydd yn arwain y prosiect Llwybrau Byw! Bydd hefyd yn arwain ein hymgais i ehangu’r Wicipedia Cymraeg a’r Wikipedia Saesneg yng Nghymru.

Bydd ei swydd yn para am 12 mis. Dywedodd Robin: “Mae mynd i fewn – i ganol y gweithgareddau – gan ddangos i werin Cymru be allant wneud yn rhoi byz anhygoel i mi: gall bawb fod yn awdur, yn gyhoeddwr ac yn addysgwr drwy gyfrwng Wicipedia, a rhoi yn ôl rhywbeth gwerthfawr iawn i gymdeithas.

“Mae bod yn rhan o Wikimedia UK a Wici Cymru (dau griw bendigedig) yn sylfaen gadarn yn fy ngwaith o gerdded y Llwybrau Byw.”

Dywedodd Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK, “Mae penodiad Robin fel ein Rheolwr yng Nghymru yn rhan hanfodol o’n strategath ”outreach”. Wicipedia Cymraeg ydy’r wefan Gymraeg fwyaf boblogaidd yn y byd ac rydym yn ymfalchio ein bod yn medru cefnogi’r Gymrag.

“Er gwaetha’r ffaith fy mod yn hanner Cymro fy hun, mae fy ngwybodaeth o’r Gymraeg yn fach, ond dw i’n falch iawn fy mod yn medru cynorthwyo i’w bywiogi fel hyn, er mor fychan yw’r cyfraniad hwnnw.”

Darllenwch ragor yma


Jisc a Wikimedia UK yn codi pont rhwng academia a Wicipedia
27 Mehefin 2013 gan Stevie Benton
Dr Martin Poulter
Dr Martin Poulter

Mae Jisc a Wicimedia UK yn cydweithio ar brosiect sy'n dod a'r byd academaidd a Wicipedia yn nes at ei gilydd. Bydd hyn yn creu cyfleoedd ar gyfer ymchwilwyr, addysgwyr a'r cyhoedd i gyfrannu tuag at wybodaeth rhydd, am ddim ac sy'n agored i bawb.

Mae'r elusen addysgol Jisc yn arbenigwr mewn technoleg ddigidol o fewn y byd addysg ac ymchwil, ac mae nhw'n cefnogi'r prosiect hwn er mwyn ehangu'r gynulleidfa a wneith fanteisio ar y gwaith blaenllaw ac avant-garde mae'n ei wneud. Mae'r gwaith yma'n cynnwys adnoddau agored addysgol, casgliadau o waith ymchwil arlein a chasgliadau eraill (e.e. papurau newydd wedi'u digideiddio). Mae Wikimedia UK yn elusen sy'n cefnogi Wicipedia Cymraeg a phob un o'r 280 iaith arall a'i chwaer brosiectau megis Comin, Wiciadur a Wicidestun. Mae'n cydweithio gyda gweithwyr proffesiynol mewn llyfrgelloedd, prifysgolion, amgueddfeydd a sefydliadau eraill er mwyn gwella'r wybodaeth sydd ar y prosiectau hyn ac er mwyn ehangu hygyrchedd y wybodaeth er lles pawb.

Mae'r prosiect hwn wedi'i sefydlu ym Mhrifysgol Bryste. Bydd yn hyfforddi arbenigwyr yn eu gweithle ac yn cynnal ambell "olygathon" a fydd yn agored i'r cyhoedd. Penodwyd y Dr Martin Poulter yn Llysgennad i'r prosiect a bydd yn gyfrifol am bontio rhwng y ddwy gymuned: Jisc a Wikimedia UK. Penodwyd Dr Toni Sant ychydig yn ôl yn gyfrifol am yr adran addysg o fewn WMUK, adran sy'n canolbwyntio ar addysg drydyddol. Bydd gwaith Martin yn cynnwys clustnodi meysydd i'w datblygu yn ogystal a threfnu Cynhadledd EduWiki ym Mae Caerdydd yn Nhachwedd 2013.

Darllenwch ragor yma


Cynhadledd WMUK – Mediawiki ar gyfer OER a Learning Analytics
Y Gadeirlan yn Lincoln
12 Mehefin 2013 gan Richard Nevell. Cyhoeddwyd y testun gwreiddiol a welir isod gan Simon Knight, yma.

Ddydd Sadwrn, yn Lincoln, siaradais yng Nghynhadledd Wikimedia UK am y defnydd o Mediwiki ar gyfer Adnoddau Dysgu Agored (OER, neu Open educational resources) a Learning Analytics; mae'r sleidiau a gyflwynais i'w cael yma a bydd fideo o'r cyflwyniad ar lein cyn hir.

Mi wnes i gyfarfod grwp o bobl yn EduWiki 2012 (a rhennais ychydig o fy syniadau yma: EduWiki 2012), ceisiais adeiladu fy sgwrs ar y gwaith a wnes yng Nghaergrawnt ar y prosiect ORBIT – creu llwyfan o adnoddau dysgu agored ar gyfer dysgu rhyngweithiol yn enwedig y pynciau STEM a gweithiau eraill sy'n berthnasol i fy ngwaith PhD.

Darllenwch ragor yma


Wythnos y Gwirfoddolwr - llythyr gan ein Prif Weithredwr
4 Mehefin 2013 gan Stevie Benton. Sgwennwyd y cofnod blog canlynol gan Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK
Jon Davies, Prif Weithredwr WMUK

Mae 1-7 Mehefin yn Ddiwrnod y Gwirfoddolwr yn y DU. Pa well ffordd i'n hatgoffa fod prosiectau Wikimedia, gan gynnwys Wicipedia, yn cael eu sgwennu'n gyfangwbwl gan wirfoddolwyr?

Ers dros 12 mlynedd mae criw enfawr o bobl, o bob cefndir dan haul, ac o bob oedran, barn, a diddordebau, wedi dod at ei gilydd i greu y cefnfor eang yma o wybodaeth rhydd, gan ei rannu gydag eraill gan eu bont yn credu fod hynny'n beth da a gwerth chweil. Ac mae nhw'n parhau i wneud hynny.

Carem gynnig ein diolch di-ben-draw a chynhesaf i bawb sy'n gwirfoddoli i ryddhau a datblygu'r cefnfor hwn o wybodaeth, am eu hynni, a'u hamser i hyrwyddo'r cysyniad hwn o wybodaeth rhydd ac am ddim i bawb. Waeth pa ran o'r gwaith rydych yn ei wneud: cywiro camsillafu, golygu'r cynnwys, sgwennu a datblygu erthyglau, hyfforddi golygyddion newydd, gweithio gyda'r adran GLAM neu addysg neu hyd yn oed gwneud paned o de - can diolch i chi am wneud Wikimedia'n bosib. A dyma pam yr es ati i ofyn i fy nghydweithwyr sut roedden nhw'n teimlo ynglŷn â gweithio gyda gwirfoddolwyr Wikimedia...

Darllenwch ragor yma

Dychwelyd i'r dudalen gyfoes