Wikimedia yng Nghymru
Croeso i Wikimedia yng Nghymru
Croeso i Wikimedia yng Nghymru, sef cartref popeth sy’n ymwneud â Chymru, a’r Gymraeg, ar draws holl brosiectau Wikimedia.
Rydyn ni bob amser wrth ein boddau yn clywed gan sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru a hoffai ymwneud â Wikimedia UK. Gallwch gysylltu â Chydlynydd Rhaglen Cymru, Gemma Coleman ar gemma.coleman@wikimedia.org.uk.
Sut ydw i’n darganfod beth sy'n digwydd yng Nghymru?
- Cofrestrwch ar gyfer rhestr e-bost Cymru. Byddwn yn rhannu popeth sy'n ymwneud â Chymru a'r Gymraeg yma.
- Cofrestrwch ar gyfer rhestr trafodaeth e-bost y DU. (Mae hyn yn cwmpasu'r DU gyfan, felly efallai na fydd rhai digwyddiadau llai yn cael eu rhannu yma)
- Edrychwch ar y rhestrau ar y dudalen we hon a thudalen digwyddiadau'r DU am drosolwg cynhwysfawr o'r holl ddigwyddiadau sydd ar ddod.
- Efallai na fydd pob digwyddiad yn cael ei bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, ond gallwch ddilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (rydyn ni ar Bluesky, Mastodon, LinkedIn, Facebook, Instagram ac ati)
Digwyddiadau sydd ar ddod yng Nghymru ac ar-lein
Tachwedd
- 6 - Cardiff Meet Up #5 / Wikigwrdd Caerdydd #5 6pm - 8pm, Bru Coffee, Heol y Frenhines, Caerdydd CF10 2BG
- 15 - "Community celebration event" 11am - 1pm arlein
- 20 - "Wikisource Transcribe-a-thon." 18:00 - 20:00 ar-lein.
- 27 - "Online Introduction to Wikipedia Editing" 6pm to 8pm arlein
- 28 - | Golygathon Wici-Fflics | Wici-Fflics Edit-a-thon 1pm - 4pm Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales, Ceredigion, SY23 3BU
- 29 - Golygathon Diwrnod AIDS y Byd, Llyfrgell Canolog Caerdydd, Yr Aes, CF10 1FL 1pm-4pm.
Rhagfyr
- 6 - "Revitalizing UK History, Series 2: Multilingual Expansion". Dysgu sut i olygu a chyfieithu Wikidata gan gynnwys ychwanegu labeli a disgrifiadau amlieithog. (3pm - 5pm arlein)
- 10 - "Wikimedia projects and smell-related content: ideas on where, how and why to add it." 18:00 - 19:30 UTC ar-lein
Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau ledled y DU i'w gweld ar y dudalen Digwyddiadau.
Trefnu digwyddiadau
Wicigwrdd
Dim ond un aelod o staff sydd gennym yng Nghymru. Rydyn ni, felly, bob amser yn chwilio am gyfranwyr sydd eisiau cynnal Wicigwrdd neu digwyddiadau anffurfiol yn eu rhan nhw o Gymru. Ceir gwybodaeth am sut i drefnu un ar-lein ac rydyn ni’n hapus i helpu cymaint ag y gallwn. Anfonwch e-bost at Gemma ar gemma.coleman@wikimedia.org.uk os hoffech help neu gymorth gyda hyn.
Sesiynau ‘Bocs Tywod’
Mae ein cyfranwyr cymunedol yn ffynhonnell o wybodaeth a sgiliau. Mae rhai ohonyn nhw wedi rhannu hyn â’u cyfoedion yn ein Sesiynau ‘Bocs Tywod’. Gweler How to calmly edit in controversial areas ac Using Duplicity: Create Missing Wikidata Items from Wikipedia fel enghreifftiau diweddar. Os oes gennych chi sgìl yr hoffech chi ei rhannu â’r gymuned, anfonwch e-bost at gemma.coleman@wikimedia.org.uk i drafod.
Rhywbeth arall?
Oes gennych chi syniad sydd heb gael ei restru uchod? Wiki Walk yn eich ardal gan ddefnyddio WikiShootMe o bosibl, neu daith dywys gan ddefnyddio lluniau o Wiki Commons i ddangos sut yr edrychai ardal yn y gorffennol? Efallai eich bod chi'n rhan o grŵp a hoffai ddysgu sut i olygu Wikipedia, neu efallai fod yna bwnc rydych chi'n angerddol amdano. Os oes gennych chi syniad y gallwn eich helpu ag ef, anfonwch e-bost at email gemma.coleman@wikimedia.org.uk.
Digwyddiadau a recordiadau o’r gorffennol
- Recordiad - Cwlwm Celtaidd 2025: cynhadledd ar-lein i ddathlu golygwyr sy'n gweithio mewn ieithoedd lleiafrifol.
- Darllenwch y blog ynghylch ein golygathon Wythnos Hanes Traws (Saesneg yn unig).
Ffyrdd eraill o gymryd rhan
Ymunwch â Wikimedia UKMae aelodau'n chwarae rhan allweddol wrth lunio dyfodol y Siapter. Gall unrhyw un fod yn aelod am £5 y flwyddyn. | |
DigwyddiadauRydyn ni’n trefnu llawer o ddigwyddiadau bob blwyddyn, gan gynnwys cyfarfodydd, digwyddiadau golygu, digwyddiadau "Tocyn Cefn Llwyfan" mewn amgueddfeydd, gweithdai a chynadleddau. Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu digwyddiad, cysylltwch â ni. | |
Dechrau golyguDechreuwch olygu heddiw! Mae mwy i Wikimedia na Wikipedia yn unig – mae hefyd yn cynnwys WikiData, Wikimedia Commons, WikiSource, a mwy. | |
Uwchlwythwch eich lluniauMae Wikimedia Commons yn storfa o gyfryngau rhad ac am ddim. Uwchlwythwch eich lluniau heddiw a gadewch iddyn nhw gyrraedd cynulleidfa o filoedd. |
Rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed gan wirfoddolwyr newydd. Os oes gennych chi syniad yr hoffech chi helpu i’w wireddu, neu amser a sgiliau yr hoffech chi eu cynnig i Wikimedia UK, cysylltwch â ni ar volunteering
wikimedia.org.uk